Sumatra - Gayo Highlands

Regular price£8.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

RHOST


  • Fferm: Gayo Highlands
  • Lleoliad: Bener Mariah, Gogledd Sumatra
  • Uchder: 1100-1400m
  • Proses: Giling Basah/Wedi’i hanner olchi
  • Anrywiogaeth: Mandheling

Nodiadau Blasu:Tywyll a myglyd, cyrens duon, Te du, teimlad ceg cyfoethog a thrwm


Wedi'i leoli ger Tingkem yn ardal Bener Meriah, Gogledd Sumatra, mae'r coffi organig hwn yn dod o grŵp o 400 o ffermwyr sy'n gweithio 450 hectar o dir. Mae'r rhanbarth yn enwog am ei amodau tyfu unigryw sy'n cyfrannu at broffil blas unigryw i’r coffi hwn.

Mae'r coffi yn cael ei allforio gan PT Orion Gandatama Perkasa, a sefydlwyd yn 2016. Gydag ymrwymiad i ansawdd a chynaliadwyedd, mae PT Orion yn canolbwyntio ar Ogledd Sumatra, yn enwedig ardal Toba ag ucheldir Gayo. Maent yn gweithredu melin sych o'r radd flaenaf yn Medan, mewn lleoliad cyfleus ger porthladdoedd llongau, ac yn cynnal melin wlyb a sych yn Ucheldir Gayo. Mae PT Orion yn ymroddedig i feithrin perthnasoedd cryf â ffermwyr a chwmnïau cydweithredol lleol, gan sicrhau bod pob swp o goffi yn bodloni safonau ansawdd uchel wrth hyrwyddo arferion cynaliadwy.

Wedi'i dyfu mewn priddoedd lôm folcanig cyfoethog – sy’n cynnwys tywod, silt a chlai - mae'r coffi hwn yn ffynnu yn hinsawdd ddelfrydol y rhanbarth, gan arwain at flasau cyfoethog, llawn-gorff a myglyd. Mae'r amrywiogaeth Mandeling, sydd wedi'i enwi ar ôl pobl Mandailing Tapanuli, yn cynrychioli'r holl goffi arabica yn yr ardal.

Mae’r coffi’n cael ei dyfu gan ffermwyr sydd fel arfer yn rheoli ffermydd bychain teuluol, gyda maint cyfartalog rhwng 0.5 i 2 hectar. Mae pob ffermwr yn rhan o fenter gydweithredol, sy'n helpu i hwyluso gwell arferion a mynediad i'r farchnad. Mae'r strwythur cydweithredol yn caniatáu ar gyfer proses symlach lle mae coffi yn newid dwylo sawl gwaith ynh ystod y broses sychu, gan sicrhau rheolaeth ansawdd a chysondeb. Mae'r holl arferion ffermio wedi'u hardystio'n organig. Mae ffermwyr yn cael hyfforddiant mewn rheoli coed, defnyddio plaladdwyr, a thechnegau cynaeafu, gan sicrhau coffi o ansawdd uchel. Maent hefyd yn dysgu am ddulliau cadwraeth i atal diraddio pridd a gwella iechyd yr amgylchedd.

Ar ôl cynaeafu, mae’r ceirios yn cael eu eplesu am 12 awr, yna'n cael eu sychu i 35-40% o leithder. Mae'r coffi yn cael ei hyrddio a'i sychu ymhellach i 15-18% o leithder cyn ei gludo i Medan i'w sychu'n derfynol i 13% o leithder. Yna caiff ei bacio mewn sachau wedi'u leinio gyda GrainPro, yn barod i'w cludo.


Efallai yr hoffech chi