Ein Moeseg

Yn ystod ein hamser yng Ngholombia, buom yn treulio sawl penwythnos ar fferm [finca] ein ffrindiau ar lethrau’r Andes yn Antioquia. Yn ystod un ymweliad aethon ni i ymweld ag hen adeilad lle rodden nhw’n arfer prosesu coffi, ac wrth gwrs roeddwn am wybod pam nad oeddent yn tyfu coffi bellach. Ar ôl cwpl o flynyddoedd o rwd dail ynghyd a phrisiau isel ar y farchnad, doedd coffi ddim yn gnwd hyfyw yn ariannol iddynt. Daeth yn amlwg i ni bryd hynny mai dim ond trwy edrych ar ôl y cynhyrchwyr y byddwn yn sicrhau y gallwn ni fwynhau ein latte neu espresso dyddiol yn y dyfodol.



Bu’r farchnad goffi yn allweddol i ddatgelu anghyfiawnderau’r farchnad nwyddau byd-eang, ac yn rhannol gyfrifol am ddechrau’r mudiad masnach deg ac ardystiadau eraill fel y ‘Rainforest Alliance’. Nawr gwelir yr ardystiadau yma ym mhobman ac maent yn golygu bod masnachwyr yn sicrhau o leiaf isafbwynt cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol i’r cynhyrchwyr. Yma yn Poblado Coffi rydym yn credu bod ardystio yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud.

Yn ystod taith i Rwanda fe ddysgon ni am gynllun sydd wedi rhoi hwb i incwm ffermwyr coffi. Mae’r prosiect nid yn unig yn cynnig hyfforddiant i ffermwyr, ond mae wedi darparu adnoddau ychwanegol i wella cyfleusterau prosesu; mae hefyd wedi agor drysau i’r farchnad goffi arbenigol lle mae’n bosib cael pris llawer gwell am y ffa. Nid oes ateb ‘un-maint-i-bawb’ i sicrhau ein bod ni i gyd yn cael gafael ar y coffi gorau o’r ffynonellau tecaf, ond mae adeiladu partneriaethau cynaliadwy gyda’r cynhyrchwyr yn allweddol.




Er nad oes cydberthynas uniongyrchol, mae llawer o’r gwledydd tlotaf yn y byd yn wledydd sydd hefyd yn cynhyrchu coffi. Gyda’r syched byd-eang am ffa arbenigol yn cynyddu’n flynyddol, dylwn edrych ar goffi fel cyfle i godi pobl allan o dlodi mewn partneriaeth masnach sydd nid yn unig yn sicrhau cynaliadwyedd y farchnad, ond yn cynyddu ansawdd yr hyn a gynhyrchir.

Mae ein coffi yn dod o gyflenwyr sy’n rhannu’r farn hon ac yn dod gyda gwarant nad oes neb wedi dioddef neu eu camddefnyddio ar hyd y gadwyn gyflenwi. Rydym yn credu mewn tryloywder ac yn darparu gwybodaeth gyflawn ar bob coffi yr ydym yn gwerthu.