Beth yw Caffi Rhosty?
Yn ystod dyddiau'r wythnos rydym yn brysur yn cynhyrchu yn y rhosty, yn rhostio coffi a'i becynnu ar gyfer ein cwsmeriaid.
Yn yr haf rydym yn agor ein drysau ar ddydd Sadwrn fel caffi. Mae’n gyfle i ni fynd tu ôl i'r peiriant coffi, rhoi ein sylw llawn i chi a sipian coffi drwy’r dydd yn ein cwrt hardd (sy’n dal yr haul yn hyfryd gyda llaw).
Cyfle i ni weini ein diodydd gorau, poeth neu oer, gyda llefrith neu beidio, beth bynnag y dymunwch, fe wnawn ni!
Rydym yn gweini cacennau gan Cakesmiths a detholiad o ddiodydd meddal.
Dewch â'ch ffrindiau, dewch ar eich pen eich hun i gwrdd â phobl newydd a mwynhau'r gornel dawel hon o Eryri.
Pryd?


Cerddoriaeth Fyw
Rydym yn croesawu bandiau i ddod i jamio yn y cwrt drwy gydol yr haf. 2025 fu'r haf gorau hyd yma! Felly diolch i bawb a gymerodd ran, gobeithio y gwelwn ni chi'r flwyddyn nesaf!
*nodwch, ni fyddwn yn derbyn archebion tan ddiwedd y gwanwyn.