Peru- Teulu Rioja

Regular price£9.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

·       Fferm: Rioja Family

·       Lleoliad: Perlamayo, Huabal

·       Uchder: 1850-1950m

·       Proses: Wedi'u golchi

·       Varietal: Caturra

Nodiau cwpanu:  


Cyflaith menyn, eirin gwlanog, ffrwythau coch, melyster dwys gyda gorffeniad siocled hir.

Mwy o wybodaeth: 

Mae'n bleser gennym ddod â choffi blasus y Teulu Rioja ym Mheriw yn ôl i'r rhosty Roedd eu coffi’r llynedd yn un o’n goreuon am y flwyddyn, ac mae cnwd eleni mor dda, rydyn ni’n meddwl ei fod yn perthyn i’n hystod premiwm, gan arddangos y gorau o’r hyn y gall coffi fod! Neidiodd oddi ar y bwrdd cwpanu atom gyda melyster nad oeddem wedi'i flasu o'r blaen mewn coffi - os oes gennych chi ddant melys yna dyma'r coffi i chi!

 Mae Emma Rioja, ffermwr coffi ymroddedig yn parhau â thraddodiad ei theulu gydag angerdd am goffi o ansawdd uchel ar ei fferm La Guaba, ar uchder o 1877 metr uwchben lefel y môr. Mae ei hangerdd am goffi yn deillio o draddodiad hirsefydlog ei theulu mewn ffermio coffi. Mae'r fferm yn eiddo i'r teulu, wedi'i throsglwyddo oddi wrth ei rhieni, ac yn cyflogi pump o bobl.

Mae'r hinsawdd yn y rhanbarth hwn yn oer ac yn llaith gyda glawiad aml, sy'n cefnogi twf coffi arbenigol. Fodd bynnag, mae Emma yn wynebu heriau fel newid hinsawdd, sychder, plâu a chlefydau planhigion. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae'n defnyddio arferion cynaliadwy fel chwynnu mecanyddol ac ychwamegu deunydd organig pydredig. Mae amrywiaethau coffi'r fferm yn cynnwys Caturra, Costa Rica, a Nacional, sy'n cael eu prosesu gan ddefnyddio eplesu anaerobig mewn bagiau. Ar ôl y cynhaeaf, caiff y ceirios eu gorffwys am 36 awr, ac yna eplesu mewn bagiau plastig am 48 awr, proses sydd wedi'i haddasu i'r hinsawdd oerach yn Perlamayo.

Mae Emma llawn balchder gweithio ar ei thir ei hun ac yn ymdrechu i feithrin amrywiaethau coffi o ansawdd uchel. Mae ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynnal a gwella’r seilwaith prosesu i barhau i gynhyrchu coffi eithriadol. Mae ymdrechion amgylcheddol Emma yn cynnwys defnyddio deunydd organig a thechnegau chwynnu cynaliadwy. Er nad oes gan y fferm unrhyw ardystiadau ar hyn o bryd, mae'r arferion hyn yn adlewyrchu ei hymrwymiad i warchod yr amgylchedd a gwella amodau ei fferm.

Mae'r coffi blasus hwn wedi'i gyrchu trwy Falcon Coffee. Mae Emma a'i theulu yn cymryd rhan ym mhrosiect Speciality Plus Falcon, lle maent wedi derbyn offer ac wedi cael agronomegydd i'w helpu i arbrofi.

Efallai yr hoffech chi