Pecynnu Compostadwy
Ers sawl blwyddyn rydym wedi dod yn fwyfwy pryderus am faint o wastraff yr ydym ni fel cwmni yn ei gynhyrchu, yn enwedig o ran ein pecynnau. Ar ôl chwilio am beth amser, credwn ein bod wedi dod o hyd i ateb sydd nid yn unig yn cadw'r coffi yn ddiogel ac yn ffres ond sydd wedi'i wneud o ddeunydd y gellir ei gompostio'n llawn, gan gynnwys y falf 1-ffordd.
Mae ein bagiau newydd yn cael eu gwneud o PLA (asid polylactig), sef resin sy'n dod o ffynonellau adnewyddadwy, megis corn, cansen siwgr, a betys siwgr. Mae PLA yn gwbl gompostiadwy, gan dorri i lawr o fewn 90 diwrnod mewn cyfleuster masnachol.
Mae'r sticeri sy'n gwahaniaethu rhwng 'Beans' a 'Wedi Malu' ar y bagiau wedi'u gwneud o bagasse, deunydd cwbl fioddiraddadwy wedi'i wneud o cansen siwgr.
Rydym hefyd wedi penderfynu ychwanegu cerdyn gwybodaeth papur at bob coffi i wahaniaethu rhyngddynt. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud hyn gyda stwfflwr, felly erbyn nawr hwn yw’r unig ran o'n pecynnu na ellir ei gompostio!
Er na fydd y bagiau hyn yn dadelfennu'n llwyr mewn bin compost gardd gefn safonol, maent yn bioddiraddio'n gyfan gewbl mewn cyfleusterau compostio diwydiannol. Os ydych chi yn byw yn Sir Gwynedd, mae gwastraff compostadwy cartref a gesglir trwy'ch bin compost cartref yn cael ei gyfeirio i gyfleuster compostio diwydiannol, sy'n golygu y bydd ein bagiau'n cyrraedd y lle iawn. Rydym bob amser yn argymell gwirio gyda'ch cyngor lleol i gadarnhau beth sy'n cael ei dderbyn yn system gompostio eich ardal.