Cwrdd â'r tîm

Steff

Perchennog / Boss / OG OG (gwreiddiol)

Steff, y dyn y tu ôl i'r cyfan. Y gweithiwr sydd wedi gwasanaethu hiraf. Falch o fod wedi sefydlu cwmni rhostio coffi arbenigedd cyntaf Cymru. Mae Steff yn cofio sgyrsiau nad yw wedi’u cael ac nad yw’n cofio’r sgwrs y mae wedi’i chael; er gwaethaf hyn credwn ei fod e werth y byd. Fe welwch Steff yn nofio yn ei lyn annwyl neu'n boddi mewn gwaith adnewyddu hen gapel. Os ydych chi erioed wedi cwrdd â Steff byddwch chi'n gwybod mai ei haelioni, ei garedigrwydd a'i natur dda yw'r rheswm mae pobl yn ei garu!

 

Hoff ddiod – Coffi! (Poblado wrth gwrs)

 

Malen

Ninja Pacio

Fe ffeindiwch chi Malen yn gwrando ar bodlediadau ysbrydion a llofruddiaeth arswydus gyda'i chlustffonau canslo sŵn i mewn, mae bob amser yn angenrheidiol agosáu ati’n ofalus neu bydd yn neidio allan o'i chroen ac yn ein dychryn ni i gyd. Mae ei heffeithlonrwydd, ei sylw i fanylion a'i sgiliau trefnu heb eu hail. Heb Malen fyddai ein coffi ni ddim yn mynd i unman! Pan nad yw Malen yn y gwaith mae’n troedio’r dyffrynnoedd hyfryd o’n cwmpas ac yn dod o hyd i’r caffis gorau gyda’i dau fachgen.

Hoff ddiod: Americano gyda’n Blend Espresso

 

Molls

Rheolwr Pob Dim + Estheteg

Heb Molly mae pethe yn mynd ar chwâl ond gyda Molly mae'r cyfan yn digwydd llawer llyfnach a mwy effeithlon. Pennaeth estheteg, hi yw'r un y tu ôl i'n cyfryngau cymdeithasol, marchnata a chysylltu â chi, ein  holl gwsmeriaid hyfryd bob wythnos. Mae hi'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhedeg fel peiriant olewog, yn datrys problemau ac yn gwneud stwff. Er bod Molly yn honni ei bod wedi ymddeol o ddringo creigiau, mae’n debyg y byddwch yn ei gweld hi’n dringo o leiaf 3 gwaith yr wythnos, neu’n rhedeg i fyny mynydd, neu’n trochi mewn dŵr oer - gyda’i chamera’n agos bob tro

Hoff ddiod: Fflat white gyda sudd ceirch neu goffi Brasilaidd cneuog llyfn

 

Larry

Prif Feistr Rhostio Cyffredinol

Pennaeth coffi a rhostio. Mae ei ffrindiau'n meddwl ei fod yn sipian coffi drwy'r dydd am fywoliaeth...am fywyd de? Ond mewn gwirionedd, mae Larry yn allweddol i pam mae ein coffi yn blasu cystal! Mae ei syched am chwilio am goffi gwych a’i fanylder wrth rhostio yn amhrisiadwy i’n tîm bach! Mae’n wych yn dynwared, yn berchennog balch ar hen Volvo sydd wedi bod trwyddi (ond yn dal i fynd!), ac yn ganwr cyfrinachol o ‘death-metal’. Mae’n debyg eich bod wedi ei weld yn gweithio mewn caffis o amgylch Gogledd Cymru.

Hoff ddiod: Brag oer proces naturiol

 

Osian

Cynorthwy-ydd - popeth

 Rhostiwr cynorthwyol, prif roliwr casgenni wisgi, a phaciwr espresso. Fe welwch Osian yn gwrando ar Pink Floyd neu fersiwn dub o Pink Floyd neu unrhyw beth dub i fod yn onest. Daeth Osian atom heb fod yn hoff iawn o goffi, ond nawr mae’n dechrau ei ddyddiau gyda fflat white proses wisgi yn ei law wrth sôn wrthym am ei brosiectau dringo caled diweddaraf. Mae Osh yn fachgen lleol, mae’n treulio’i holl amser rhydd yn dringo creigiau mewn mannau esoterig o amgylch Gogledd Cymru, mae’n dipyn o ‘Wad’ (h.y. hynod o gryf )

 Hoff ddiod: Fflat white gyda choffi proses wisgi

 

Sion

Yr OG (gwreiddiol)

Ni allwn peidio cynnwys Sion. Mae e dal yn aelod o’r sgwrs grŵp ac yn ymweld yn aml am goffi. Bu Sion yn gweithio yn Poblado am flynyddoedd ac er iddo bron llosgi’r rhosty lawr, bydd yn rhan o'r tîm am byth!

Ef yw'r dyn y tu ôl i'r enwog Plodwyr Poblado. Dal i fynd!