Ein Stori
pobl (Cymraeg) people
poblado (Sbaeneg) tref, pentref, cymuned, dynoliaeth
Mae’r enw Poblado yn cynrychioli’r math o le hoffwn ni fyw a gweithio ynddo. Rhywle lle mae ansawdd ein cynnyrch yr un mor bwysig â’n perthynas gyda’n cwsmeriaid, cyflenwyr, ac wrth gwrs y cynhyrchwyr eu hunain.
Pennod 1:
Dechreuodd ein stori yn ôl yn 2003 pan oeddem yn byw yn El Poblado, cymdogaeth hyfryd yn Medellin, ail ddinas Colombia. Ar ôl treulio amser ar fferm goffi yn dysgu pob peth a wneir i ddarparu’n diod ddyddiol, roedden ni wedi’n bachu’n llwyr.
Ar ôl blynyddoedd o deithio ac antur rydym bellach wedi setlo o’r diwedd yn ôl yng Nghymru fach. Rydym yn mwynhau machlud haul anhygoel dros Fôr Iwerddon o flaen y tŷ, ac mae’r ardd gefn yn wynebu Parc Cenedlaethol Eryri, un o ganolfannau antur gorau ynysoedd Prydain.O’r fangre hyfryd yma bwriadwn gadw mewn cysylltiad gyda’r pentref byd-eang trwy ddod a’i ffa coffi gorau yma i Eryri, i’w rhostio a’u blendio.
Pennod 2:
Ar ôl 3 blynedd o rostio yn y ‘cwt coffi’ ar ddiwedd yr ardd, roedd hi’n amser symud i leoliad ychydig yn fwy, yn ogystal ag uwchraddio ein rostiwr i gadw i fyny gyda’r galw. Nawr, fe welwn ni yn hen farics y chwarelwyr yn Nantlle, un o’r dyffrynnoedd mwyaf trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri . Yn aml rydym yn cael ein cyfarch gyda golygfa odidog o Yr Wyddfa (y gorau yn y Parc yn ein barn ni), a nawr yn gwneud ein holl rostio yma.
Os ydych chi yn yr ardal, mae yna groeso i chi ymweld â ni, yn enwedig y rheini sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am siwrnai hir y mae coffi yn ei ddilyn o hedyn i’r cwpan!