Coffi o Kenya / Gweithio gyda Omwani
KENYA NANDI COUNTRY LOT 22
Rydan ni'n gweithio gydag Omwani er mwyn cyflwyno'r coffi newydd yma i chi.
Om
-Wah
-Nee
/əʊ mɑː niː/
Iaith: Bukonzo (Is-tafodiaith Uganda)
Cyfieithiad: Coffi (ffeuen)
Wedi ei sefydlu yn 2018, mae Omwani yn bartner cyrchu coffi gwyrdd arbennig. Maent yn gweithio ar draws Affrica Ddwyreiniol i gysylltu rhostwyr i ffermwyr a chynhyrchwyr. Wedi ei annog gan y dymuniad i gryfhau perthnasau rhwng rhostwyr a chynhyrchwr, maent yn cyrchu coffi gwych wedi ei phrisio'n deg, yn ddidwyll, agored a gonest.
Perthynas Poblado Gydag Owmani
Cychwynnodd y perthynas pan cyfarfododd Steff (perchennog Poblado Coffi) a Dave (Pennaeth Coffi Omwani) ar lein yn 2020 yn ystod y pandemig COVID. Gydag angerdd am goffi ynghyd a phrofiad mewn masnach coffi, datblygodd eu perthynas yn syth!
Ar y pryd, roedd Dave yn gweithio ar gyfer Rounton, ac oedd y ddau wedi gweithio gydag Agri Evolve o'r blaen. Mae Agri Evolve yn gwmni elw-i-bwrpas (profit for purpose) sydd yn gweithio gyda ffermwyr ar draws ardal Rwenzori yn Uganda i wella safon coffi ac incwm ffermwyr. Penderfynodd Steff a Dave ymweld â'r Rwenzori ar ddiwedd 2022, ac er nid oedd yn ymweliad hir iawn, cafwyd amser gwych. Mae'r Rwenzori yn amrediad o fynyddoedd yn Affrica-Gyhydeddol Ddwyreiniol, wedi'i leoli ar y ffin rhwng Uganda a Gwladwriaeth Ddemocrataidd Congo.
Erbyn 2023, roedd Dave yn bennaeth coffi yn Omwani, ac oedd Steff wedi pasio'r baton gwerthiannau ymlaen i Larry (Prif Rhostiwr Poblado Coffi)
Mae ganddynt amryw o goffis gwych ar gael. 'Dani wedi samplu nifer ohonynt, ac mae hi wastad yn benderfyniad anodd rhyngddynt ar y bwrdd cwpanu!
Coffi o Kenya yw ein detholiad diweddaraf o Omwani. Yn y gorffennol, rydan ni wedi cael coffi o'r wlad yma o'r blaen, felly hoffwn drafod masnach coffi Kenya ymhellach.
Darllenwch ymlaen i gael dysgu mwy...
Masnach Coffi yn Kenya
Mae'r fasnach goffi yn Kenya wedi cael ei llygru a'i cham-drin yn ystod y blynyddoedd, yn effeithio cwmnïau cydweithredol a chynhyrchwyr. Caiff yr holl broses ei rheoli drwy drwyddedau sy'n caniatáu i gwmnïau weithredu mewn gwahanol gamau o'r gadwyn gyflenwi, megis melino, marchnata, rheoli ffermydd, ac allforio. Dylai hynny olygu mai dim ond yn un o'r camau hyn mae cwmnïau'n gweithredu ynddynt, ond cafodd cwmnïau masnachu mawr hyd i fylchau er mwyn integreiddio yn fertigol a gorelwa. Byddai cwmnïau cydweithredol bach yn contractio asiantau i gynrychioli eu coffi mewn ocsiwn, ond gan fod yr asiantau yn aml yn perthyn i fasnachwyr rhyngwladol, yn hytrach na cheisio cael y prisiau gorau i'r cynhyrchwyr, byddent yn cael prisiau a fyddai'n ffafrio'r masnachwyr rhyngwladol.
Mae hyn wedi bod yn digwydd ers tro, ac mae sector coffi Kenya wedi'i beirniadu am adael i hyn ddigwydd. Roedd yn golygu bod cynhyrchwyr bach wedi'u hatal rhag gwerthu'n uniongyrchol. Mae hyn wedi arwain at brisiau anghynaladwy a diffyg pŵer i newid unrhyw beth. Ym Mehefin 2023, yn ystod Cynhadledd Rhanddeiliaid Coffi, edliwiodd llywodraethwr Sir Embu y cwmnïau sy'n dominyddu'r fasnach drwy ddilyn strategaethau manteisiol a rheoli prisiau, a'u henwi yn gartél.
Caiff y rhan fwyaf o goffi o Kenya canolog ei werthu mewn ocsiwn. Ar hyn o bryd, mae dwy system marchnata yn Kenya. Mae coffi yn cael ei brynu gan y cyflenwyr coffi trwy fidio cystadleuol. Mae ocsiynau yn cymryd lle ar bob Dydd Mawrth trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y fasnach goffi yn Kenya yn cael ei reoli'r holl ffordd drwy'r gadwyn gyflenwi, gan wella'r tryloywder a'r olrheinadwyedd. Ond mae hyn yn golygu bod cynhyrchwyr coffi bach yn dal i gael trafferth cael cydnabyddiaeth neu pŵer i fynegi pryderon.
Be sy'n wahanol am y goffi yma o Kenya Nandi County?
Mae gan Sir Kericho hanes hir mewn coffi. Mae gan ardaloedd Kipkelion a Fort Tenan rhai o’r ffermydd coffi cyntaf yn Kenya. Er hyn, dydi sir Kericho (a Bomet) ddim yn cael gymaint o adnabyddiaeth a chanoldir Kenya am greu coffi. I ryw raddau, mae hyn oherwydd bod coffi o Kenya canolog yn cael ei gwerthu mewn swmp gan allforwyr mawr trwy’r system ocsiwn cenedlaethol. Hefyd, mae ffermwyr o siroedd Kericho a Bomet fel arfer yn gweithredu o fewn cydweithredai sydd heb eu rheoli’n effeithiol, sydd yna’n cael eu manteisio ar gan gyflenwyr ar gyfer prisiau rhad.
Mae Lot 20 wedi bod yn gweithio yn yr ardal er mwyn ceisio cynnig trefn i ffermwyr Kericho a Bomet i drawsnewid i endidau a rhedir yn effeithiol sydd yn prosesu a gwerthu coffi ar ben eu hunain, heb gymorth gan unrhyw ganolwyr na’r system ocsiwn.
Ynghyd a hyn, mae Lot 20 wedi sefydlu meithrinfa yn eu melin yn Sossiot. Maent wedi gosod nod o gyfrannu 50,000 o blanhigion i’r gymuned leol, mewn gobaith y bydd hyn yn creu mwy o gyfleoedd i bobl leol tyfu a gwerthu cnwd eu hunain. Wrth gynnig eginblanhigion, mae Lot 20 yn gobeithio annog cenhedlaeth iau sydd yn fwy agored i dorri hen draddodiadau wedi’u gysylltu â ffermio coffi, ac efallai y byddant yn gweld y cyfle fel math parchus a cynaliadwy o gyflogaeth. Mae presenoldeb Lot 20 yn y gymuned yn barod yn helpu i greu swyddi mewn meysydd cyfagos i ffermio coffi, er enghraifft yr holl swyddi tymhorol o fewn pigo coffi sydd yn cynnig ail gyflogau i deuluoedd lleol.