Meithrin Perthnas Moesegol gydag Agri Evolve

Cultivating Ethical Relationships with Agri Evolve
Mi ydym ni yma yn Poblado Coffi, yn credu mewn meithrin perthnasoedd moesegol gyda'n cyflenwyr. Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn sicrhau bod eich coffi yn deg yr holl ffordd o'r hedyn i'r gwpan.

“Yn ôl yn 2018 cysylltodd Martin o’r Rwenzori Coffee Co. â mi a ddywedodd wrthyf am brosiect yr oedd ei fab yn ymwneud ag ef ym Mynyddoedd Rwenzori yng Ngorllewin Uganda, yn gweithio gyda ffermwyr i wella ansawdd eu cynnyrch ac agor mynediad i’r Marchnad goffi'r DU gyda Martin fel eu hasiant yn y DU. Roedd hwn yn swnio fel union y fath o prosiect yr ydym yn hoff o'i gefnogi felly gofynnais am samplau a chan ein bod yn hapus iawn gyda'r ansawdd, fe ddechreuon ni brynu ychydig o fagiau o'u coffi wedi'i brosesu naturiol fel ein cynnig o Uganda.

Ers hynny rydym wedi cynyddu o dipyn yr hyn yr ydym yn ei brynu o ardal Rwenzori ac roeddwn yn awyddus iawn i fynd yno i ymweld a;r prosiect drosof fi fy hun. Rhoddodd y pandemig byd-eang stop ar ein cynlluniau am rai blynyddoedd, ond ges i gyfle ar ddiwedd 2022 a chael fy synnu’n fawr pa mor bell y mae’r prosiect wedi datblygu yn yr amser cymharol fyr y mae Jonny wedi bod yno. Mae'n taro deuddeg pa mor effeithiol y gall y diwydiant coffi arbenigol fod i fywydau pobl pan fydd y cynhyrchwyr yn cael eu rhoi wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Erbyn hyn rydym yn prynu cryn dipyn o goffi o'r Rwenzori ac rydym yn talu 50c ychwanegol am bob cilo o goffi gwyrdd, sy’n mynd yn uniongyrchol i’r prosiectau cymunedol ac amgylcheddol ychwanegol sydd wedi eu sefydlu gan Agrievvolve.” Steffan - Poblado Coffi

Mae Agri Evolve Ltd yn fusnes elw i bwrpas sy'n gweithio gyda ffermwyr yn Uganda, gan wella cynnyrch, cynyddu incwm a chodi ansawdd bywyd ffermwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau. Maent yn ymwneud yn bennaf â'r sector coffi ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda dros 15,000 o ffermwyr. Maent wedi ymrwymo i'r cymunedau lle maent yn gweithio ac i amgylchedd rhanbarth Rwenzori.

Ers 2018 mae Agri Evolve wedi bod yn dod â ffa coffi gwyrdd o ranbarth Rwenzori yn Uganda i'r DU. Maent yn gweithio ochr yn ochr â ffermwyr ac yn eu helpu i wella eu cnwd o goffi arabica arbenigol, sydd bellach yn cael ei ystyried ymhlith y gorau yn Nwyrain Affrica i gyd.

Mae'r coffi o ranbarth Rwenzori yn Uganda, yn dueddol o fod gyda blas glân iawn, ac yn gytbwys gyda chorff da a nodau ffrwythus.

Mae Agri Evolve wedi cychwyn ar raglen 10 mlynedd o’r enw ACE 2030, Sy'n canolbwyntio ar y cysylltiadau annatod rhwng:

Amaethyddiaeth

Cymuned

Amgylchedd

    Mae nodau eang wedi’u sefydlu ar gyfer ACE 2030, a gosodir targedau manylach ar gyfer pob blwyddyn. Adroddir ar gynnydd i bob rhanddeiliad yn flynyddol.

    Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am ACE 2030 yma:

    ACE 2030

    Mae Agri Evolve yn fusnes teuluol. Jonny yw’r Rheolwr Gyfarwyddwr, ac yn byw ac yn gweithio yn Uganda, gyda'i chwaer Beth. Mae Martin, y tad wedi'i leoli ac mae'n datblygu cysylltiadau uniongyrchol rhwng y ffermwyr coffi a rhostwyr coffi'r DU. Mae coffi gwyrdd yn cael ei fewnforio a’i werthu i Rhostwyr o dan yr enw masnachu ‘Rwenzori Coffee Co’. Yn Uganda mae yno bellach dîm o dros 80 o staff, gan gynnwys Agronomegwyr a Swyddogion Maes, Technegwyr a Rheoli Ansawdd, Cyfrifwyr, Staff Prosiectau Arbennig, a Thîm Cynhyrchu.