Swydd Wag

JOB VACANCY

Disgrifiad Swydd

Blaen Tŷ a Chynorthwydd Rhosty Cyffredinol
Cyfnod awgrymedig: Mai – Medi

 

Rydym yn chwilio am rywun newydd i ymuno â’n tîm yr haf hwn! Bydd y rôl hon yn canolbwyntio’n bennaf ar brofiad cwsmeriaid yn y rhosty. Dydd Gwener yw’r diwrnod prysuraf i ni gyda’n hymwelwyr, ac yn ystod misoedd yr haf rydym yn agor ar ddydd Sadwrn fel ‘caffi’ (Caffi Rhosty), gan weini coffi a chacennau i aelodau enwog ein clwb rhedeg Poblado Plodders a’r cyhoedd. Yr haf hwn mae gennym gigs cerddoriaeth fyw wedi’u trefnu, ac rydym yn croesi bysedd am dywydd braf gan nad oes gennym seddi dan do ar y safle! Mae Nantlle’n gornel dawel iawn o’r byd – mae’r awyrgylch yn hamddenol ac mae wastad amser i gael chwerthin gyda’ch cydweithwyr a chysylltu’n ystyrlon â chwsmeriaid.

 

Fel y gwyddoch efallai, rydym yn ehangu i safle arall – sy’n golygu, i’r ymgeisydd cywir sydd eisiau bod yn rhan o deulu Poblado Coffi yn y tymor hir, bod potensial i’r rôl yma dyfu’n rhywbeth mwy!

 

 

Prif rolau

·       Darparu profiad rhagorol i’n cwsmeriaid

·       Paratoi coffi i ymwelwyr

·        Paratoi archebion ar gyfer cwsmeriaid.

·        Helpu gyda dyletswyddau hanfodol eraill pan fo angen

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

😊 Ein nod yw cwsmeriaid hapus a silffoedd llawn stoc.

 

Rhinweddau a sgiliau hanfodol

·       Profiad o weithio mewn siop goffi neu ym maes arlwyo

·       Sgiliau Barista

    Angerdd am goffi, masnach decach, a Gogledd Cymru

    Personol, cwrtais a chroesawgar

    Siarad Cymraeg (neu’r parodrwydd i ddysgu)

 

Rhinweddau a sgiliau dymunol

·       Dealltwriaeth o wefannau e-fasnach a llwyfannau gwe eraill

·       Cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2

     Gallu cyfrifiadurol


 

O ddydd i ddydd

• Cadw pob ardal yn lân ac yn daclus
• Croesawu ymwelwyr
• Ailgyflenwi’r stoc blaen tŷ
• Helpu lle bynnag y mae angen

 

Manteision y Swydd

• Coffi diderfyn
• Tâl fesul awr yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol (yn dibynnu ar oedran a phrofiad).
• Tâl ychwanegol am sifftiau penwythnos.

• Oriau hyblyg yn ystod yr wythnos yn ôl y llwyth gwaith (rhwng 7yb a 5yp)

 

Oriau Gwaith a Thâl

• Oriau Craidd: 14 awr o waith yr wythnos
• Dyddiau gwaith hanfodol: Dydd Gwener a Dydd Sadwrn o ganol Mehefin hyd ganol Medi (Caffi Rhosty)
• Dyddiau ychwanegol yn ddewisol