Guatemala - Teulu Primavera

Regular price£8.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

RHOST

  • Fferm: Teulu Primavera - Tyddynwyr Huehuetenango
  • Amrywiogaeth: Caturra, Catuai, Bourbon
  • Lleoliad: San Antonio Huista, Huehuetenango
  • Uchder: 1,550 - 1,650mts
  • Proses: Wedi eu golchi.
  • Perchennog: Tyddynwyr amrywiol

Nodiadau Blasu

Eirin a siocled - hufennog yn y ceg

Mwy o wybodaeth

Gyda phedair cenhedlaeth o dyfwyr coffi yn y teulu, mae Primavera wedi deillio o draddodiad cyfoethog mewn coffi. Mae cael gweithrediadau yn Guatemala yn caniatáu i'r tîm yn Primavera ddod o hyd i'r coffi gorau, ac mae eu logisteg darbodus ac effeithlon yn rhoi mynediad hawdd a diogel i rhostwyr fel ni i weithio gyda'r cynhyrchwyr mewn masnach fwy uniongyrchol a thryloyw.

Mae cyrchu'n uniongyrchol o'r tyfwyr coffi yn byrhau'r gadwyn gyflenwi, gan ganiatáu i ni roi mwy o fanteision ariannol iddynt ar gyfer eu coffi. Nid yn unig y mae'r pris yn decach i'r cynhyrchydd, mae'r math hwn o fasnach uniongyrchol yn caniatáu i ffermwyr gael eu cydnabod am ansawdd, ymdrechion a brwdfrydedd uwch. Mae Primavera yn gweithio'n gyson gyda'r ffermwyr unigol ar ffyrdd o wella ansawdd eu cynhaeaf er mwyn derbyn premiymau uwch yn ogystal â chynhyrchu lotiau y gellir eu gwerthu fel eu micro-lotiau eu hunain neu goffi tarddiad sengl ysblennydd.

Mae’r lot arbennig hon wedi’i rhoi at ei gilydd gan gasgliad o 10-15 o gynhyrchwyr bach sy’n rhan o deulu Primavera, ac sy’n gweithio’n galed i wella ansawdd er mwyn cyrraedd uchelfannau hyd yn oed yn uwch yn y dyfodol. Bydd y prisiau uwch y mae’r ffermwyr hyn wedi’u derbyn eleni yn eu galluogi i ail-fuddsoddi yn eu ffermydd a melinau gwlyb gan eu galluogi i werthu am brisiau uwch yn y dyfodol.

Mae'r holl goffi yn cael ei gynaeafu a'i brosesu ar bob fferm unigol cyn cael ei sychu yn yr haul ar batios. Yna mae Primavera wedi cyfuno'r lotiau hyn i wneud cyfuniad fforddiadwy gwych, yn llawn nodiadau siocled sy'n gysylltiedig â choffi o ranbarth Heuhuetenango.

Efallai yr hoffech chi