Roedd Barics y Chwarelwyr yn Nantlle, a adeiladwyd yn yr 1860au, yn gartref i lu o chwarelwyr a weithiai yn Chwarel Dorothea. Ers 2016, mae’r Barics wedi bod yn gartref a hwb i ni, ym mhle mae’n holl goffi yn cael ei rhostio, blasu a’i bacio â llaw.
Rydym wastad yn arbrofi gyda mathau gwahanol o goffi yma yn y Barics, ac mae ‘Blend Y Barics´ yn gyfle i ni rannu efo chi pan ‘dani’n taro ar rywbeth rydyn ni wir yn ei hoffi.
Blend Y Barics yw ein blend tymhorol, ac mae'n ddewis arall i'n Espresso Blend. Er ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer espresso, mae Blend Y Barics yn creu Aeropress, Stovetop, neu Gaffetiere hyfryd.
Bydd Blend Y Barics yn newid gyda'r tymhorau a'r cynhaeaf, felly ymunwch a ni ar y daith a mwynhewch yr hyn rydyn ni'n ei yfed yn y rhosty.
-----------------------------------------------
Mae Blend y Barics yn ôl, ac fel yr arfer, ni allem fod yn fwy cyffrous i rannu gyda chi gyfuniad o rai o’n hoff goffi o gynaeafau a llwythi coffi’r gaeaf hwn.
Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn rhostio ac yfed y coffi rhagorol proses naturiol ‘Nyabibara’ gan griw ‘Migoti’ ym Murundi, wedi'i gyrchu trwy Omwani Coffi. Yr oedd a’r coffi a wnaeth ein blend Nadolig diweddaraf mor… Nadoligaidd. Roedden ni eisiau un cyfle arall i yfed hwn cyn i’r cyfan fynd, ac felly ar gyfer y cyfuniad gaeafol yma, rydyn ni wedi ei baru gydag un o’n hoff goffis llawn sudd a chyfoethog i gyrraedd gyda’r cynhaeaf diweddar o Beriw, ‘Cafe San Pablo’, wedi'i gyrchu trwy Falcon Speciality.
Mae'r ddau goffi yn paru'n hyfryd i roi paned melys a llawn menyn, gyda nodau llugaeron ac orennau, sitrws a sbeis.
Rydym bob amser yn ymdrechu i greu coffi sy’n cyd-fynd â’r tymhorau, ac mae’r coffi llawn sudd a chyfoethog hwn yn cyd-fynd â’n boreau rhewllyd yn y Barics, gan ein cynhesu wrth edmygu’r olygfa o’r mynydd yr ydym mor ffodus i’w mwynhau tra yn y gwaith.