Tŷ Xie Shan

Xie Shan House

Yn debyg i lawer iawn o draddodiadau pensaerniol eraill o amgylch y byd, mae dyluniadau gwahanol o dai yn anwahanadwy oddiwrth statws a dosbarth yn Tsiena. Mae’r math penodol yma, gyda theiliau crwn moethus a chorneli crwm a elwir yn dôau Xie Shan yn nodweddiadol o neuaddau, temlau ac adeiladau swyddogol yn ail i ddim i ond un steil wahanol yn strwythur dosbarth y wlad.

Dewiswyd ganddom ni I gynyrchioli ein cynnigion tseiniaidd oherwydd eu symbyliaeth tsieiniaidd digamsiynol, yn ogystal ag eu amlygrwydd yn ardal Yunnan, ble deuai’r rhan helaeth o’r coffi ac ble aeth Steff i ymweld yn reit ddiweddar. Yno bu’n dysgu am ddiwydiant goffi sy’n blodeuo ac yn dechrau haeddu clod byd-eang am y safon.

Efallai eich bod yn cysylltu Tseinia fwy hefo tyfiant o dê, ond mae tebygrwydd yn eu anghenion i dyfu. Yn gyffredinol mae te angen bod yn uwch a thymheredd ȋs i dyfu tra bo’r coffi angen gwres a bod yn uwch. Mae hyn yn golygu fod Yunnan, sef ardal fynyddig yn Nê Tsieina sy’n ffinio â Myanmar a Vietnam (sydd hefyd yn dyfwyr coffi o nôd) yn berffaith ar gyfer ddiwydiant ifanc y wlad.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig coffi o Lafu yn Yunnan sydd a chymlethdod hyfryd i arddangos cryfder y dewis sydd yn tarddu oddi yno.