Ffermdŷ Cymreig

Welsh Farmhouse

Seilwyd y ty ar label ein ‘blendiau’ ar dŷ carreg traddodiadol Cymreig a welir yn aml ledled cefn gwlad Cymru.

Yn amlach na pheidio, ffermdai edrychai fel hyn yn dyddio o ddeutu’r 17eg ar 18ed ganrifoedd, wedi eu hadeiladu o’r deunyddiau oedd yn lleol iddynt. Yn Eryri er engraift, bydda hi’n anodd darganfod ty or fath heb lechen o un o’r chwareli byd enwog yr ardal ar y tô.

Yn amlwg, nid yn Eryri a dyfwyd y coffi hyn, ond yno cafwyd eu dewis a’i cymysgu ganddom ni i greu ein ‘blendiau’ Espresso, Cartref a Digaffin unigryw.

Mae’r tri math gwahanol yn cael eu dewis ar gyfer pwrpasau gwahanol; Espresso ar gyfer peiriannau pwrpasol a photiau Moka, y blend Cartref yn arbennig ar gyfer dulliau ffilter, â’r cynnig digaffin ar gyfer y rhai ohonom sydd eisiau osgoi effeithiau’r caffin sy’n naturiol ofewn coffi.

Newidiai’r cydrannau yn ol y tymhorau i sicrhau cysondeb blas a ffresni drwy gydol y flwyddyn.