Ein Tai

Our Houses

Weithiau, pan yn cyfarfod cwsmeriaid newydd, gofynnant beth yw arwyddocâd y tai sydd ar ein bagiau coffi, yn ogystal a’r enw sbaenag ar gwmni Cymreig.

Deuai’r syniad i enwi’r cwmni yn ‘Poblado coffi’ o amser Steffan yn dysgu saesneg yng Ngholombia. Yno bu’n byw yn nrhef El Poblado yn Mendellin. Mae’r gair yn cyfiaethu’n fras i’r Gymraeg fel tref, pentref, cymuned neu ddynoliaeth. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad hefo’r gymraeg yn y gair ‘pobl’.

Mae’r enw I ni, yn cynrychioli’r math o le hoffwn ni fyw a gweithio ynddo. Rhywle lle mae ansawdd ein cynnyrch yr un mor bwysig â’n perthynas gyda’n cwsmeriaid, cyflenwyr, ac wrth gwrs y cynhyrchwyr eu hunain.

Yn y bon, y bobl sydd yn gwneud coffi yn arbennig. Mae’r tai bach yn cynyrchioli yr amrywiaeth yn ffyrdd o fyw y byd sy’n cyfrannu at ein hoff ddiod.

Yn ystod yr wythnosau nesaf byddant yn rhyddhau cyfres o flogiau i ymhelaethu'r ysbrydoliaeth tu ol ein tai bach.  Mwynhewch!