Hacienda
Darlun o hacienda goffi Latin-Americanaidd cyfarwydd i ganolbarth a dê America welwch chi a’r flaen ein dewis o goffis o’r Americas.
Deillwyd y gair o’r Sbaeneg ‘hacer’, golygai ‘gwneud’ neu ‘i wneud’, a ddefnyddir i ddisgrifio planhigfâoedd, mwyngloddiau neu ffatrioedd o gyfnod gwladychu’r cyfandir gan y Sbaenwyr. Er eu hanes lleidiog o’r 18ed ganrif a thu hwnt mae perchnogaeth y ffermydd bellach fwyfwy yn nwylo’r pobol leol (nid eu goresgynnwyr ac eu disgynyddion hwythau), yn enwedig ofewn coffi arbenigedd. Rydym ni yn blaenoriaethu arferion masnach teg wrth ddewis ffâ or holl leoliadau.
Oherwydd amlygrwydd y diwydiant coffi yng nghanolbarth a de America mae’r amrywiaeth sydd ar gael yn eang tu hwnt. Gall pob newidyn yn y broses, o’r rhywiogaeth i’r arferion ffermio greu blasau di-ben draw, ond rydym ni yn tueddu tuag at goffis â chorff menyn-aidd, llyfnder siocled ac awgrymmiadau o asidedd malig.
Ar hyn o bryd, mae coffis o Honduras, Guatemala, Periw a Cholombia ar gael ganddom o’r Americas. I gyd â’i cymeriadau unigol i’w mwynhau, ar gael ar ein gwefan yn ogystal a’ch stociwr lleol.