Tŷ'r Batak

Batak House

Gwelir adeilad sy’n dod o draddodiad pensaerniol y Batak ar ein bagiau sydd â choffi o Indonesia.

Mae toeau siap cwch a stiltiau oddi tanynt yn nodweddiadol o dai reis, neuaddau a thai cymunedol yn niwylliant pobl y Batak yng Ngogledd Sumatra, sef ynys fwyaf gorllewinol y wlad. Er mai tai fwy modern sydd gan drigolion yr ardal erbyn heddiw, mae delwedd y tai unigryw yma’n symbol o’u diwylliant hynafol.

Er ei fod yn tarddu o’r Affrig bell, mae coffi yn ddiwydiant llewyrchus iawn yn Sumatra (sef prif gynhyrchiwr coffi Indonesia) olygodd mai nhw odd pedwerydd cynhyrchiwr mwya’r byd yn 2014. Mae eu tirweddoedd mynyddig ac y ffaith eu bod ar y cyhydedd yn golygu fod coffi’n ymgartrefu’n berffaith yn micro-hinsawddau â grewyd gan wrês ac uchder.

Ers y dyddiau cynnar ym Mhoblado Coffi mae cynnig o Indonesia (o ogledd Sumatra fel arfer) wedi bod yn greiddiol i’m casgliad amrywiol. Oherwydd asidedd ȋs a corff llawn â ddisgwylir o goffi o Sumatra, mae’n gweddu ei hun i rôst fymryn yn dywyllach ar gyfer y rhai ohonom sy’n mwynhau blas fwy myglyd, neu gall ei gymysgu â choffi asidaidd i greu blend hyfryd.

Yn bresennol, ffeuen o Atu Litang, Gogledd Sumatra sydd gynnom I chi eu fwynhau.