Kenya Nandi County - AB

Regular price£8.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau


RHOST 

MWYNHAU ORAU MEWN - 

ESPRESSO + AEROPRESS

-----------------------------------

KENYA – SÎR NANDI – AB

  • Fferm: Lot 20
  • Lleoliad: Sîr Nandi
  • Uchder: 700-1500m
  • Proses: Wedi’w golchi
  • Amrywiogaeth: SL28, SL34

Nodau cwpanu


Ysgafn a Chroyw, Llygaeron, Bricyllen, Lemon

Mwy o wybodaeth

Mae Lot 20 yn grŵp sydd yn gweithio a chynhyrchwyr o siroedd Kericho a Bomet yn ardal ddeheuol o’r Dyffryn Rift yng Nghenya. Maent yn frwdfrydig am ddiwyllio, triniaeth deg i gynhyrchwyr, a masnach dryloyw. Gydag ocsiwn fel y prif ddull o werthu coffi yng Nghenya, mae sicrhau ffynhonellu mewn ffordd dryloyw yn gallu bod yn anodd iawn. Er hynny, mae Lot 20 yn ceisio trio rhywbeth newydd; allforio eu coffi nhw eu hunain.

Mae gan ardaloedd Kipkelion a Fort Tenan rhai o’r ffermydd coffi cyntaf yng Nghenya. Er hyn, dydi sir Kericho (a Bomet) ddim yn cael gymaint o adnabyddiaeth a chanoldir Kenya am greu coffi. I ryw raddau, mae hyn oherwydd bod coffi o Kenya canolog yn cael ei gwerthu mewn swmp gan allforwyr mawr trwy’r system ocsiwn cenedlaethol. Hefyd, mae ffermwyr o siroedd Kericho a Bomet fel arfer yn gweithredu o fewn cydweithredai sydd heb eu rheoli’n effeithiol, sydd yna’n cael eu manteisio ar gan gyflenwyr ar gyfer prisiau rhad.

Mae Lot 20 wedi bod yn gweithio yn yr ardal er mwyn ceisio cynnig trefn i ffermwyr Kericho a Bomet i drawsnewid i endidau a rhedir yn effeithiol sydd yn prosesu a gwerthu coffi ar ben eu hunain, heb gymorth gan unrhyw ganolwyr neu’r system ocsiwn.

Ynghyd a hyn, mae Lot 20 wedi sefydlu meithrinfa yn eu melin yn Sossiot. Maent wedi gosod nod o gyfrannu 50,000 o blanhigion i’r gymuned leol, mewn gobaith y bydd hyn yn creu mwy o gyfleoedd i bobl leol tyfu a gwerthu cnwd eu hunain. Wrth gynnig eginblanhigion, mae Lot 20 yn gobeithio annog cenhedlaeth iau sydd yn fwy agored i dorri hen draddodiadau wedi’u gysylltu â ffermio coffi, ac efallai y byddant yn gweld y cyfle fel math parchus a cynaliadwy o gyflogaeth. Mae presenoldeb Lot 20 yn y gymuned yn barod yn helpu i greu swyddi mewn meysydd cyfagos i ffermio coffi, er enghraifft yr holl swyddi tymhorol o fewn pigo coffi sydd yn cynnig ail gyflogau i deuluoedd lleol.

Efallai yr hoffech chi