Roedd Barics y Chwarelwyr yn Nantlle, a adeiladwyd yn yr 1860au, yn gartref i lu o chwarelwyr a weithiai yn Chwarel Dorothea. Ers 2016, mae’r Barics wedi bod yn gartref a hwb i ni, ym mhle mae’n holl goffi yn cael ei rhostio, blasu a’i bacio â llaw.
Rydym wastad yn arbrofi gyda mathau gwahanol o goffi yma yn y Barics, ac mae ‘Blend Y Barics´ yn gyfle i ni rannu efo chi pan ‘dani’n taro ar rywbeth rydyn ni wir yn ei hoffi.
Blend Y Barics yw ein blend tymhorol, ac mae'n ddewis arall i'n Espresso Blend. Er ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer espresso, mae Blend Y Barics yn creu Aeropress, Stovetop, neu Gaffetiere hyfryd.
Bydd Blend Y Barics yn newid gyda'r tymhorau a'r cynhaeaf, felly ymunwch a ni ar y daith a mwynhewch yr hyn rydyn ni'n ei yfed yn y rhosty.
-----------------------------------------------
Gorffenaf 2025
Mae’r haf wedi cyrraedd ('dy ni’n meddwl), sy'n golygu ei bod hi'n bryd i ni rannu rhai o'n hoff goffi yr ydym wedi blasu dros y misoedd diwethaf i gyd-fynd â'ch boreau heulog gyda'n Blend y Barics yr haf. Rydym bob amser yn anelu at greu coffi sy'n cyd-fynd â blasau'r tymor yn ogystal ag arddangos y gorau o'r hyn rydym wedi'i flasu a'i garu yma yn y rhosty. Ble gwell i ddechrau felly, na choffi naturiol o Ethiopia, o Chelbesa (wedi'i gael trwy Falcon Specialty). Rydym wedi bod yn ymwybodol o Chelbesa ers peth amser ac wedi cysylltu eu coffi ag ansawdd a chysondeb rhyfeddol erioed, ac fe wnaeth y coffi hwn ein taro ni gyda bywiogrwydd ffrwythus a sitrws a oedd yn arbennig - hyd yn oed ar gyfer safonau Ethiopia! O ran beth i'w baru ag ef? Wel, pan gawson ni samplau gan ein ffrindiau yng Ngwatemala o Primavera Coffee (y bobl y tu ôl i'n coffi poblogaidd Primavera Family), cawson ni ein syfrdanu gan 'El Durazno’ ( a ffermiwyd gan Octavia Lopez). Mae El Durazno yn cyfieithu o Sbaeneg i 'Yr Eirin Gwlanog', ac mae'n cael ei enwi ar ôl y coed eirin gwlanog a geir ar y fferm. Yn anygoel, y blas pennaf sy’n neidio allan o’r coffi hwn yw (wrth gwrs!) - eiring gwlanog! Roedden ni wrth ein bodd â'r melyster a'r corff eirin gwlanog cyfoethog ac roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i ddod â'r coffi i'r rhosty. Mae'r ddau goffi yn plethu’n hyfryd ac yn disgleirio i greu diod hafaidd hyfryd o felys. Rydym yn blasu mefus, te iâ lemwn ac eirin gwlanog, cacen gaws ffrwythau a surop masarn. Mae Blend y Barics wedi'i gynllunio i weithio'n dda ym mhob dull bragu, fel espresso gwahnol ffynci, coffi hidlo llyfn a ffrwythus, neu frag oer adfywiol! Fel y dywedwn, rhowch gynnig ar bob dull sydd ar gael i chi, a mwynhewch y broses!