RHOST
Nodiadau blasu
Eirin
gwlanog, bricyll, tê lemon, mêl, hufennog
Coffi hyfryd arall o Ethiopia, tebyg i'r Beshasha blaenorol ond rydyn ni'n meddwl bod hwn hyd yn oed yn well!
Mwy o Wybodaeth
Tyddynydd yw Mustefa Abakeno gyda 18 hectar o dir ger Agaro ym Mharth Jimma yng Ngorllewin Ethiopia. Mae ei fferm wedi'i leoli yn 2,040masl ac mae planhigion coffi wedi eu plannu o ganolfan ymchwil Jimma. Mae gan Mustefa pylpiwr disg bach y mae'n ei ddefnyddio i olchi hanner ei goffi; mae'r hanner arall wedi'i sychu’n naturiol. Oherwydd diffyg dŵr yn yr ardal a lleoedd cyfyngedig i eplesu'r coffi, mae Mustefa yn eplesu'r coffi am gyfnod byr (8 awr) cyn eu symud ymlaen i’r gwelyau sychu (am 13-16 diwrnod), y canlyniad yw rhywbeth fel mêl ysgafn.
Dim ond yn 2018 y cofrestrodd Mustefa fel allforiwr er mwyn gwerthu ei goffi yn uniongyrchol i brynwyr, (galluogodd ei wneud ar ôl newidiadau i'r rheoliadau'r flwyddyn honno). Mae'r felin wlyb fach, o'r enw Beshasha, yn cael ei ddefnyddio i brosesu ei goffi o, a ffermwyr eraill ar welyau uchel ar wahân, ger tŷ Mustefa. Mae cyd-dyfwyr Mustefa i gyd yn gymdogion iddo ac mae gan bob un rhwng 4 a 10 hectar o dir.
Mae gan Mustefa labordy bach ac yn 2020 prynodd ddarllenydd lleithder Sinar uchel i sicrhau bod yr holl femrwn a sychwyd yn y gorsafoedd yn cyrraedd yr un lefel lleithder cyn cael ei storio yn y warws. Mae Coffi Arbenigedd Falcon, ein mewnforwyr ni, wedi trefnu fod Harun, sy'n agronomegydd, i weithio gyda Mustefa a'i dim. Mae'n asesu a graddio'r lotiau dydd sych, gan eu rhoi at ei gilydd yn seiliedig ar ansawdd a phroffil cwpanu. Ar hyn o bryd mae'n hyfforddi ffermwyr mewn arferion amaethyddol da (GAP) er mwyn gwella ansawdd a chynhyrchedd eu gerddi coffi.