RHOST
Nodiau blasu:
Afal gwyrdd, lemwn, caramel a siocled tywyll.
Mwy o wybodaeth
Mae'n bleser dod â'r coffi yma sy’n dipyn o ffefryn ganddom yn ôl i'r rhosty gan ein ffrindiau yn Siruma (a geir drwy Falcon coffees). Ym mis Awst eleni cawsom y pleser a'r fraint o groesawu sylfaenwyr Siruma, Valentina a Gabriel, am ddiwrnod, a'u dangos o gwmpas ein cartref bach ni. Roedd cwrdd â nhw a chlywed eu straeon o Golombia yn ysbrydoledig ac yn addysgiadol ac yn ei gwneud hi'n fwy arbennig fyth gallu rhannu eu gwaith caled a'u coffi gyda chi gyd. Mae Suukala, sy'n golygu 'siwgr / melys' yn yr iaith frodorol leol, yn rhan o ystod Siruma sy'n 'cynrychioli gwaith caled ffermwyr sydd wedi ymrwymo i gynhyrchu coffi o ansawdd uchel, â sgôr uchel.'
Yn y 1950au ym mwrdeistref Riosucio Caldas, fel ym mhob bwrdeistref sy'n cynhyrchu coffi yng Ngholombia, roedd ffermwyr coffi yn anfodlon â'r cam-fanteisio a ddioddefasant gan brynwyr grawn cyfryngol. Yna y galwodd grŵp o ffermwyr coffi, dan arweiniad Adran Datblygu Gydweithredol Pwyllgor Coffi Adrannol Caldas, 255 o ffermwyr i'r Cynulliad Cyfansoddol, a gynhaliwyd yn warysau Ffederasiwn Cenedlaethol y Tyfwyr Coffi yn Riosucio ym 1963. Roedd yr aelodau sefydlu yn cynnwys ffermwyr coffi o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol. Dechreuodd y Gydweithfa Ffermwyr Coffi ddarparu gwasanaethau uniongyrchol yn Riosucio, gan gynnwys prynu coffi, adran gredyd, a darpariaeth amaethyddol.
Heddiw, mae ganddo 2,635 o aelodau wedi'u gwasgaru ar draws 171 o bentrefi wedi'u lleoli yn Adran Caldas ym mwrdeistrefi Riosucio, a Supia, Marmato, a Quinchía yn Adran Risaralda. Mae'r staff yn cynnwys 64 o weithwyr sy'n gweithio gydag ymrwymiad ac ymroddiad i ddarparu gwasanaethau i bob aelod yn y saith man prynu.
Mae 98% o ffermwyr coffi yng Ngholombia yn gynhyrchwyr ar raddfa fach, sy'n golygu bod eu teuluoedd yn darparu llafur. Trwy eu gwaith, mae aelodau wedi llwyddo i osod coffi arbenigol yn y marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol oherwydd ei ansawdd wironeddol o safon yn y cwpan. Mae'n sefyll allan am ei farchnata effeithlon a gwahanol raglenni coffi arbenigol fel Masnach Deg, arferion C.A.F.E, La Vereda, Nespresso, Coffi Organig, a ‘Rainforest Alliance’.