RHOST
- Fferm: Region Planandas, Tolima
- Amrywiogaeth: Castillo, Catura
- Lleoliad: Colombia & F8
- Altitude: 1,500 - 2100 m
- Proses: Washed
- Perchennog: Various Smallholders
Nodiau blasu:
Asidedd sitrws melys, disglair, siocled llaeth, hufenog, corff llawn
Mwy o wybodaeth
Ar gyfer y ‘lot’ hon o Colombia rydym wedi ymuno â John
Frater a'i wraig Claudia o'r cwmni ‘The Green Collection Coffee’. Mae gan John
hanes hir yn y diwydiant coffi, o sefydlu cwmni rhostio yn Ne Affrica i gyfnod byr yn berchen ar ei
fferm goffi ei hun ger Armenia yng nghanol Colombia, ag arweiniodd at gromlin
ddysgu serth am yr heriau niferus y mae ein cynhyrchwyr gweithgar yn eu
hwynebu.
Ers 2015 mae John a Claudia wedi bod yn gweithio gyda'r
cymunedau anghysbell iawn yma o amgylch Planadas, Tolima, yng nghanol un o'r
rhanbarthau tyfu coffi gorau yng Ngholombia. Bu’r ardal hon o dan reolaeth y
FARC, (Byddin Gwrthryfelwyr Arfog Colombia) am flynyddoedd lawer, gan olygu nad
oedd yn hawdd iawn i Colombiaid trafeilio yno, heb sôn am dramorwyr. Ers y
trafodaethau heddwch fodd bynnag, mae pethau wedi newid yn gyflym yng
Ngholombia, ac er bod llawer o heriau o hyd, mae’r cymunedau o amgylch
Planadas, gyda chymorth y ‘Green Collection’, bellach yn gwerthu coffi’n
uniongyrchol i rhostwyr yn y DU.
Mae ymrwymiad y ‘Green Collection’ i clirder olrhain,
cynaliadwyedd a chymdeithasgarwch yn cyd-fynd yn wych â’n hathroniaeth yma yn
Poblado Coffi. Rydym yn gobeithio parhau i’w cefnogi wrth wrth iddynt weithio'n
uniongyrchol gyda ffermwyr i gynhyrchu coffi wedi'i dyfu'n gynaliadwy, a sy'n
sicrhau datblygiad cymdeithasol ac economaidd.