Honduras Finca San Jose

Regular price£8.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

RHOST

  • fferm:<="" span="" > Finca San Jose
  • lleoliad:="" <="" span="" >el="" pedernal,="" la="" paz
  • uchder:<="" span="" >="" 1440m
  • proses:="" <="" span="" >Honey Process
  • Amrywogaeth: red="" catui="" a="" yellow="" bourbon

Mae’r coffi gwych yma sydd wedi mynd trwy’r Proses ‘Mêl’ yn adlewyrchu’r hyn rydan ni yn Poblado Coffi yn anelu amdano – partneriaethau seiliedig ar berthnasau. Mae’n perthynas gyda COMSA (Café Organico Marcela) yn mynd a ni yn ol 7 mlynedd, pan ddaeth Suita Manuela, stiwdant Prifysgol Bangor, i gnocio ar ddrws Steff i gyflwyno hi’i hun. Rhanodd Suita ei chefndir o dyfu i fyny mewn cymdeithas ffermio coffi yn Honduras ac ei brwdfrydedd i helpu cysylltu ffermwyr gyda rhostai ar draws y byd. Aeth Suita ymlaen i weithio mewn nifer o swyddogaethau, yn cynnwys interniaeth yn IKAWA, cyn ddychwelyd i Honduras i gychwyn COMSA, cydweithfa sydd yn cynrychioli ac yn helpu gwerthu’r coffi gorau wedi’i tyfu yn ardal La Paz yn Honduras.

Mae’n cynheaf cyntaf gan Suita a COMSA yn lot arbennig proses ‘Mêl’ – proses cyffredin yng Nghanolbarth America. Yn ystod y broses hon, mae croen y ceirios coffi yn cael ei dynnu ar ôl cynheafu, ond mae lysnafedd y ffrwyth yn cael ei adael ar y ffeuen yn ystod y broses sychu. Mae’r rhan yma o’r broses yn cymryd hyd at 20 diwrnod tra mae’r ffeuen yn eplesu tu mewn i’r ffrwyth, sydd yna’n creu blas anhygoel fel y gwelwn yn y coffi yma.

Mae’r coffi yma yn dod o fferm teulu Molina, wedi’i sefydlu ym 1940 gan Constantino Molina Vasquez, a mae rwan yn cael ei redeg gan or-wyr Constantino, Noe Molina. Mae Noe rwan yn rhan o’r pedwerydd genedlaeth o fewn y teulu, a fo ydi’r cyntaf i allforio eu coffi, sydd yn mynd a’r busnes i safon uwch o gydnabyddiaeth ac ansawdd.

Mae’r coffi o’r Fferm San Jose yn ganlyniad o broses ofalus sy’n dechrau yn y tir lle mae’r planhigion yn tyfu. Mae Noe Molina wedi bod yn ymroddedig i greu amgylchedd cynaliadwy a pharchus tuag at natur o’r cychwyn. Mae’r yna chwe arywiogaeth gwahanol yn cael eu tyfu ar fferm sydd wedi’i hamgylchynu â choed  a phlanhigion ffrwythau, gan gyfrannu at ecosystem amrywiol a chyfoethog. Mae’r coffi yn cael ei dyfu yn organig, gyda phrosesau rheoli sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd y pridd a bioamrywiaeth.

Mae Noe Molina yn anfon y neges hon at bawb sy'n mwynhau coffi'r teulu yma.

"Pan fyddwch chi'n mwynhau cwpan o goffi o Fferm San José Obrero, rydych chi'n mwynhau mwy na dim ond coffi; rydych chi'n cymryd rhan mewn traddodiad teuluol sy'n ymestyn dros genedlaethau, mewn proses dyfu sy'n parchu'r tir, ac mewn cymuned wedi'i chydlyni yn ôl coffi."

Efallai yr hoffech chi