Malawi - Phoka AAA

Regular price£8.50
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

Fferm: Tyfwyr Phoka Co-operative

Lleoliad: Phoka Hills, Northern Malawi

Uchder: 1300-2500m

 Varietal: Nyasa, Catimor, Geisha

 Proses:Wedi’u Golchi

 

Nodau Blasu:      Disglair, Glân, Afalau Llawn Sudd, Melys a Ffrwythlon

Unwaith eto rydyn ni wedi ymuno â’n ffrindiau yn Omwani i ddod â choffi o darddiad newydd sbon i chi.

Mae coffi eithriadol Phoka yn ffynnu ym mryniau hyfryd Phoka yng Ngogledd Malawi, sy’n eistedd ar uchder rhwng 1300 i 2500 metr uwchben lefel y môr. Mae'r rhanbarth syfrdanol hwn yn mwynhau cyfartaledd o 1760 mm a 1806 mm o law y flwyddyn, yn fwy nag unrhyw un o'r rhanbarthau cyfagos. Yr amodau gorau posibl hyn sy'n cyfrannu at broffil blas arbennig coffi Phoka.

Mae gwreiddiau'r ‘Phoka Cooperative’ ynghlwm â hanes cynhyrchu coffi ym Malawi. Ym 1971, ffurfiwyd yr Awdurdod Coffi Tyddynwyr ym Malawi fel modd o roi benthyciadau a marchnata i ffermwyr ar gyfer eu ceirios.

Fodd bynnag, oherwydd camreoli a dyledion yn cronni, penderfynwyd y byddai ‘Smallholder Coffee Farmer’s Trust. yn cymryd lle'r sefydliad ym 1999. Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal i gynnig cymorth sydd ei angen i ffermwyr coffi heddiw, gan helpu gyda mynediad at gredyd, hyfforddiant, a chyngor. Hefyd ym 1999, sefydlwyd Cymdeithas Goffi Mzuzu fel casgliad o chwe chwmni cydweithredol tyfu coffi yn gweithredu o fewn Malawi.

Erbyn 2019 fodd bynnag, roedd Phoka Hills wedi gwahanu oddi wrth Gymdeithas Goffi Mzuzu oherwydd problemau rheoli a phroblemau gydag oedi wrth dalu ffermwyr. Yn lle hynny, sefydlodd y ffermwyr hyn ‘Phoka Coffee Cooperative’ fel cymdeithas annibynnol, mewn partneriaeth â Satemwa Tea and Coffee, sydd wedi gallu cynorthwyo trwy ddarparu defnydd o'u cyfleusterau melino a graddio i Phoka Coffee. Mae Satemwa yn yr un modd wedi bod yn hanfodol i allforio coffi Phoka, trin logisteg a chyflenwi eu cynwysyddion eu hunain ar gyfer cludo.Trwy Phoka Coffee, mae ffermwyr newydd a sefydledig yn derbyn hyfforddiant parhaus mewn arferion gorau ffermio coffi, gyda ffocws ar weithredu egwyddorion amaethyddol adfywiol pryd bynnag y bo modd.


Efallai yr hoffech chi