Colombia -Planadas

Regular price£7.50
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

RHOST 

  • Fferm: Region Planandas, Tolima
  • Amrywiogaeth: Castillo, Catura
  • Lleoliad: Colombia & F8
  • Altitude: 1,500 - 2100 m
  • Proses: Washed
  • Perchennog: Various Smallholders

Nodiau blasu:

Asidedd sitrws ysgafn,nougat,siocled - corff hufennog a chytbwys.

Mwy o wybodaeth

Ar gyfer y ‘lot’ hon o Colombia rydym wedi ymuno â John Frater a'i wraig Claudia o'r cwmni ‘The Green Collection Coffee’. Mae gan John hanes hir yn y diwydiant coffi, o sefydlu cwmni rhostio yn Ne Affrica i gyfnod byr yn berchen ar ei fferm goffi ei hun ger Armenia yng nghanol Colombia, ag arweiniodd at gromlin ddysgu serth am yr heriau niferus y mae ein cynhyrchwyr gweithgar yn eu hwynebu.

Ers 2015 mae John a Claudia wedi bod yn gweithio gyda'r cymunedau anghysbell iawn yma o amgylch Planadas, Tolima, yng nghanol un o'r rhanbarthau tyfu coffi gorau yng Ngholombia. Bu’r ardal hon o dan reolaeth y FARC, (Byddin Gwrthryfelwyr Arfog Colombia) am flynyddoedd lawer, gan olygu nad oedd yn hawdd iawn i Colombiaid trafeilio yno, heb sôn am dramorwyr. Ers y trafodaethau heddwch fodd bynnag, mae pethau wedi newid yn gyflym yng Ngholombia, ac er bod llawer o heriau o hyd, mae’r cymunedau o amgylch Planadas, gyda chymorth y ‘Green Collection’, bellach yn gwerthu coffi’n uniongyrchol i rhostwyr yn y DU.

Mae ymrwymiad y ‘Green Collection’ i clirder olrhain, cynaliadwyedd a chymdeithasgarwch yn cyd-fynd yn wych â’n hathroniaeth yma yn Poblado Coffi. Rydym yn gobeithio parhau i’w cefnogi wrth wrth iddynt weithio'n uniongyrchol gyda ffermwyr i gynhyrchu coffi wedi'i dyfu'n gynaliadwy, a sy'n sicrhau datblygiad cymdeithasol ac economaidd.

Efallai yr hoffech chi