Cwt Affricanaidd

African Hut

Amalgam o gytiau traddodiadol o ddwyrain Africa a welir ar label ein coffis Affricanaidd.

Gyda eu deunyddiau adeiladu cyntefig a thôeau gwellt nodweddiadol, mae tebygrwydd rhwng y cytiau hyn a thai crwn geltaidd ein cyn-deidiau yma’n Nghymru. Er fod cymysgedd eang iawn o grwpiau ethnig i’w canfod yng nghanolbarth a dwyrain Affrica, byddai cwt tebyg i hon yn ymgartrefu’n dda yn unrhywle yno.

Credir mai o Ethiopia deuai’r arferiad cynharaf o yfed coffi fel sy’n gyfarwydd i ni heddiw, ac mae diwylliant gyfaethog o seremonȋau cymunedol yno hyd heddiw. Nid yw hi’n anodd deallt felly, safon uchel y coffi sy’n tarddu o gornel yma’r byd.

Ar y cyfan, mae’r ffa oddi yno yn rhai ffrwythog tu hwnt gyda asidedd uchel a nodweddion melys a golau. Ond rydym ni’n hoff o rhostio rhai o’m dewisiadau Affricanaidd fymryn yn dywyllach er mwyn amlygu blasau triog a charamel moethus.

Mae coffis o Rwanda ac Uganda nawr ar gael am gyfnod gyfyngiedig.