




Zambia - Mount Sunzu
ROAST
Ffarm: Mount Sunzu
Lleoliad: Mbala, Zambia
Uchder: 1600m m.a.s.l.
Proses: Naturiol
Varietal: Marsellesa AB
Nodiau Blasu:
Triog, cola, asidedd ysgafn, bywiog
Mwy o wybodaeth
Mae'r coffi diweddaraf i fod yn rhan o'n casgliad premiwm yn dod atom ni trwy ein ffrindiau da a'n partneriaid yn Omwani Coffee. Nid yn unig y mae'r coffi yn arddangos y gorau o ran blas coffi, ond sut y gellir ffermio coffi. Mae Mount Sunzu Coffee ar flaen y gad mewn sawl maes, gan gynnwys ameithydiaeth blaengar sy’n cymryd i fewn i ystyriaeth yr hinsawdd, cynaliadwyedd a sut y gall coffi newid bywydau y brodorion lleol.
Mae Mount Sunzu Coffee Ltd yn gynhyrchydd coffi arbenigedd sy'n gweithredu yng ngogledd Sambia, ger mynydd uchaf y wlad, sef Mynydd Sunzu. Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r cwmni wedi ymrwymo i chwyldroi cynhyrchu coffi trwy arferion ffermio cynaliadwy a chlyfar o ran yr hinsawdd, technoleg arloesol, ac ymrwymiad cryf i gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Cafodd Mount Sunzu eu hysgogi'n arbennig gan y diffyg arloesedd mewn ffermio coffi o'i gymharu â sectorau amaethyddol eraill. Lle mae gwledydd eraill sy'n tyfu coffi yn aml yn blaenoriaethu effeithlonrwydd neu ansawdd, mae Mount Sunzu yn anelu at gyfuno'r ddau agwedd mewn un fferm drwy;
• Systemau dyfrhau arloesol i optimeiddio'r defnydd o ddŵr
• Ffermio cynaliadwy, positif o ran yr hinsawdd gyda'r nod o amsugno mwy o CO₂ nag y mae'n ei allyrru
• Model cyfrifol yn gymdeithasol sy'n darparu cyflogaeth sefydlog a chyflogau teg i weithwyr lleol
Mae'r fferm yn ymestyn dros 750 hectar, gyda 115 wedi'u neilltuo ar gyfer tyfu coffi, a 35 hectar ychwanegol i'w datblygu erbyn 2025. Mae'r 600 hectar sy'n weddill o dir yn cael eu hailgoedwigo'n weithredol gyda choedwig frodorol Miombo, gan gydbwyso cadwraeth ag amaethyddiaeth. Mae gan y fferm dros 120 o weithwyr llawn amser a hyd at 120 o weithwyr tymhorol, gan gynnig cyflogau a buddion teg, gan gynnwys pensiynau, yswiriant iechyd, ac yswiriant damweiniau. O fewn y gymuned, mae Mount Sunzu wedi helpu gyda datblygu seilwaith, gan gynnwys rhwydwaith ffyrdd 8km ar gyfer cymunedau lleol, ac maent yn cynllunio ar gyfer buddsoddiad pellach mewn puro dŵr, llinellau pŵer, ac atebion ynni solar fforddiadwy.
Mae'r amrywiogaeth coffi ei hun yn gynnyrch uniongyrchol o’r arfer arloesol a chlyfar hwn o ran hinsawdd, gan ei fod yn amrywiaeth newydd i fyd coffi o'r enw ‘’Marsallesa. Mae'r ffa yn ddatblygiad hybrid rhwng amrywiiogaeth o ganolbarth America ac un o Indonesia, gan gynhyrchu ffa sy'n hynod o wrthwynebus i rwd dail a chlefydau planhigion, yn cynhyrchu cnwd llawer uwch, ac yn gweddu'n berffaith i uchderau canolig Zambia a Mynydd Sunzu. Bydd rhinweddau'r ffa hon yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd a chysondeb yng ngwyneb y pwysau a'r bygythiadau amryiol y mae newid hinsawdd yn eu peri i ffermwyr coffi.