Proses Wisgi - El Borbollon X Penderyn

Regular price£13.50
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Ground for

Rhost


Fferm: El Borbollon
Lleoliad: Santa Ana Volcano
Uchder: 1400m
Proses: Wedi’i olchi, yna aeddfedwyd mewn casgen wisgi
Varietal: Bourbon Coch

Mwy o wybodaeth:

Rydym wrth ein boddau yn cyflwyno ein Coffi wedi ei aeddfedu mewn Casgen Wisgi i chi eto eleni, a ddygwyd mewn partneriaeth â Distyllfa Penderyn, ac a gomisiynwyd gan ail Ŵyl Wisgi Cymru 2025.

O gopaon niwlog Bannau Brycheiniog i lethrau heulog Llosgfynydd Santa Ana, El Salvador, mae stori'r coffi hwn yn dechrau yn 2020, pan dywalltodd Aista Phillips, Meistr Blendio yn Nhistyllfa Penderyn, ei gwirod i hen gasgen Bourbon — gan ddechrau taith pum mlynedd i greu wisgi arobryn Penderyn, 'Legend'.


Yn y cyfamser, dros 5,000 milltir i ffwrdd, ar ffermydd 1,400m uwchben lefel y môr, roedd ceirios coffi Bourbon coch yn cael eu casglu â llaw a'u prosesu'n ofalus ym melin El Borbollon gan deulu Alvarez a'u tîm o 40 o fenywod medrus, pob un yn cael ei thalu uwchlaw'r cyfartaledd am eu harbenigedd.

Symudwn ymlaen yn gyflym i fis Medi 2025 yn ein rhosty yn Nantlle—lle mae bydoedd wisgi a choffi o'r diwedd yn cwrdd. Mae'r ffa gwyrdd yn gorffwys ac yn cael eu rholio'n aml yn yr un gasgen wisgi Penderyn am 4–6 wythnos, gan amsugno ei arogl dwfn, parhaol.

Mae ‘El Borbollon’ yn felin rydyn ni wedi dod i'w hadnabod ac i ymddiried ynddi am ei hansawdd uchel o ffermio, ei harferion moesegol, a'i choffi rhagorol yn gyson. Nhw sydd y tu ôl i un o'n ffefrynau yma, sef coffi wedi ei broesu yn naturiol 'Bosque Lya', a sydd wedi'i gynnwys yn ein blend Nadolig a'n hystod premiwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Eleni, rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau digon o'r cynhaeaf hwn i allu arddangos y ffa sydd wedi'i aeddfedu mewn casgenni, a'r ffa ei hun, gan roi'r cyfle i chi flasu'r gwahaniaeth y mae'r gasgen yn ei roi i'r coffi, yn ogystal â mwynhau coffi sydd eisoes yn wych ynddo'i hun.

You may also like