Jar wydr trwchus Poblado Coffi, wedi'i argraffu ar gaead pren acacia naturiol.
Yn Poblado rydym yn trio bob amser gwneud dewisiadau amgylcheddol ymwybodol. Eleni fel rhan o'n casgliad hamperi Nadolig mae gennym jariau ein hunain! Rydyn ni eisiau annog y defnydd o'n jariau ail-lenwi fel bod eich coffi nid yn unig yn erdych yn gret mewn jar yn eich cegin ond hefyd yn arbed ychydig ar wastraff ar yr un pryd.
----------------------------------
Gall y jariau hyn ddal hyd at 500g (tua) o goffi.
Dewch â'ch jar Poblado Coffi atom a wnawn ni ei ail-lenwi â choffi o'ch dewis am £10 am 500g.
----------------------------------
Beth sy'n cael ei gynnwys:
Jar 1.2L gyda chaead pren personol
Blend Nadolig 500g