Mae fferm 74ha ‘Fazenda Piao Morro
Grande’ (sy’n cyfieithu i fferm fynydd fawr cowboi), yn fferm hardd ar ochr y
mynydd ychydig i’r de o ranbarth Minas. Mae'r fferm yn cael ei rhedeg gan ddau
frawd Rafael a Leo – y drydedd genhedlaeth yn olynol. Gadawodd y ddau'r ardal i
astudio, un yn darllen y Gyfraith a'r llall Agronomeg. Roedd eu taid yn ffermio
gyda dau bartner a phan fu farw, prynodd eu nain siâr y partneriaid eraill, gan
geisio creu rhywbeth i'w drosglwyddo i'w phlant. Ategir y teimlad hwn gan
Rafael a Leo sydd bellach yn rhedeg y busnes. I'w helpu mae ganddynt deulu sy'n
byw mewn tai ar y fferm ac sydd wedi bod yn gweithio gyda'r teulu ac yn byw yno
ers 10 mlynedd.
Yn y cychwyn, roedd y fferm yn
canolbwyntio ar laeth yn bennaf, ond yn raddol, sylweddolwyd y potensial ar
gyfer ffermio coffi. Erbyn diwedd y 90au roedd y teulu yn datblygu eu gallu i
dyfu coffi o ddifrif. Wrth ychwanegu set sgiliau agronomegydd hyfforddedig,
cynyddodd ansawdd y coffi a gynhyrchwyd yn ddramatig. Mae eu coffi’n cael ei
brosesu ar y fferm, gyda’r ffa yn sychu ar y patio bob dydd ac eithrio dau
ddiwrnod yr wythnos yn ystod y tymor casglu. Mae'r brodyr yn defnyddio ‘guardiolas’
undydd, sef casgenni sy'n sicrhau cysondeb y coffi a gynhyrchir - maent yn
lliniaru effeithiau'r newid yn y tywydd o ddydd i ddydd. Mae hyn yn helpu i
sicrhau y gellir atgynhyrchu'r safon a blas ar draws unrhyw fag o'u coffi, yn
ogystal â'u lotiau flwyddyn ar ôl blwyddyn.