named after the Japanese satsuma, the ‘Mikan fruit’ the coffee often brilliantly showcases the high sweetness, citrusy, and delicious flavours we have come to expect from this region of Peru.
![]()
Nodiau blasu:
Afal, cyrens duon, siocled tywyll, taffi.
Mwy o wybodaeth
Mae'n bleser dod â'r coffi yma sy’n dipyn o ffefryn ganddom yn ôl i'r rhosty gan ein ffrindiau yn Siruma (a geir drwy Falcon coffees). Ym mis Awst eleni cawsom y pleser a'r fraint o groesawu sylfaenwyr Siruma, Valentina a Gabriel, am ddiwrnod, a'u dangos o gwmpas ein cartref bach ni. Roedd cwrdd â nhw a chlywed eu straeon o Golombia yn ysbrydoledig ac yn addysgiadol ac yn ei gwneud hi'n fwy arbennig fyth gallu rhannu eu gwaith caled a'u coffi gyda chi gyd. Mae Suukala, sy'n golygu 'siwgr / melys' yn yr iaith frodorol leol, yn rhan o ystod Siruma sy'n 'cynrychioli gwaith caled ffermwyr sydd wedi ymrwymo i gynhyrchu coffi o ansawdd uchel, â sgôr uchel.'
Daw'r cnwd hwn o'r fferm 'San Lorenzo', gwarchodfa frodorol sydd wedi'i leoli yng ngorllewin Caldas, ger tref Riosucio. Mae pobl frodorol y rhanbarth yn rhan o'r gymuned frodorol yr Embera Chamí yng Ngholombia, lle mae 12,600 ohonynt yn byw yn y 21 ‘veredas’ (cymuned wledig) o San Lorenzo.Mae gan y gymuned hon ffordd benodol iawn o weithredu, gan y gall fod rheol frodorol yng Ngholombia uwchlaw'r rheol lywodraethol draddodiadol sy'n berthnasol i weddill Colombia; felly dim ond i bobl sy'n rhan o lwyth Embera Chamí y gellir gwerthu tir San Lorenzo. Mae'r gyfraith benodol hon wedi creu llawer o nano-lotiau, lle gall tyfwyr fod yn berchen ar 5 lot gwahanol sy'n cyfateb i ddim ond 1 hectar.Mae'r gymuned hon yn ceisio amddiffyn a chadw'r ffynonellau dŵr, anifeiliaid, a natur yn gyffredinol. Gan ddilyn y cyfreithiau brodorol, ni all pawb gael mynediad rhydd i San Lorenzo - trwy beidio â chaniatáu i bawb sydd ddim yn rhan o’r gymuned frodorol i ymweld â’r ardal maent yn helpu i warchod eu diwylliant a'u natur. Fodd bynnag, mae cwmnïau dibynadwy (fel Siruma) sy'n gweithio gyda'r gymuned yn cael croeso mawr i'r ardal.Rhan fawr o ethos San Lorenzo yw'r ffordd y mae'r tyfwyr yn gofalu am y tir, lle maen nhw nid yn unig yn credu mewn cael incwm o'r tir - trwy goffi - ond hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i natur i gyfoethogi'r ecosystem.