Yr anrheg gorau i'r rhai sy'n caru mocha.
Coffi, Siocled Poeth a 'Cwpan Cofleidio' (Hug Mug). Pob un wedi'i greu yng Nghymru.
Mae ein crochenydd ffefryn, Ian o Bethesda Pottery, wedi creu casgliad unigryw o gwpanau ceramig ar gyfer y set arbennig hon. Wedi'u hysbrydoli gan awyr dywyll y gaeaf yn llawn sêr, ac yn deyrnged i'r llechi sy'n ein hamgylchynu. Lliw glas tywyll dwfn gyda sglein yn disgleirio drwy'r cwpanau hyn, sy'n rhan o rifyn cyfyngedig.
Yr holl gynhwysion ar gyfer cwpanaid gynnes o baradwys, mewn un set anrheg hyfryd. Rydym wedi cyfuno Siocled Poeth Crwst â Chymysgedd y Nadolig eleni; ychwanegwch laeth llyfn, a'i weini mewn cwpan ceramig wedi'i greu'n hyfryd. Mae'n wirioneddol baradwysaidd.
*Bydd y dimensiynau a'r lliwiau'n amrywio ychydig; mae modd gosod Aeropress ar ei ben*
maint y cwpan tua - uchder 95 mm x lled ar y brig 95 mm.
Yn y blwch: cwpan cofleidio, powdr siocled poeth Crwst, a 250g o 'Gymysgedd y Nadolig' (ffa coffi).
*** Ffa cyfan yn ddiofyn; gadewch nodyn gyda'r archeb os hoffech iddynt gael eu malu.