Mi ydym nawr ar gau tan y flwyddyn newydd a byddwn yn ail-agor ar y 6ed o Ionawr.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi ganddon ni gyd yn Poblado Coffi
Mae’n swyddogol,
rydyn ni wedi datgan ei bod hi’n amser y Nadolig felly tynnwch y goeden allan,
rhowch y goleuadau i fyny, a throwch y tegell ymlaen oherwydd mae ein blend
Nadolig blynyddol yn ôl ac ni allem fod yn fwy cyffrous i rannu hwn gyda chi.
Rydyn ni bob amser yn ceisio dod o hyd i goffi sydd â rhinweddau Nadoligaidd
iddynt, ac eleni rydym yn hapus i ddatgan bod y ddau goffi gwahanol yn deillio o berthnasoedd
a phartneriaethau rydyn ni wedi bod yn eu datblygu yn ystod y flwyddyn hon.
Mae ‘blend’ eleni
yn cynnwys dychweliad un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, coffi hyfryd o Golombia Suukala. Roeddem wrth ein bodd yn
yfed hwn fel coffi tarddiad-sengl trwy gydol yr haf, ac roedd gan y cynhaeaf
diweddaraf nodau siocled tywyll, ceirios a thaffi hynod gyfoethog – mi oedd
hi’n ddewis hawdd cynnwys hwn!
Rydyn ni wedi ei
baru gyda choffi proses naturiol o gynhyrchwyr rydyn ni wedi bod yn eu dilyn
ers tro - cwmni coffi Migoti ym Murundi. Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol dipyn o
Migoti trwy ein cysylltiad ag Arbenigwyr Dwyrain Affrica Omwani Coffee (dolen
hyper yma?). Canfyddir Migoti yn rhanbarth sydd orau am gynhyrchu coffi wedi’i
brosesu’n naturiol o ansawdd anhygoel, ac rydyn ni wedi llwyddo i gael ein
dwylo ar eu lot ‘Nyabiraba’. Roeddem wrth ein boddau â nodau ceirios a sinamon
cryf y coffi, gyda chorff da a rhinweddau o alcohol.
Rydyn ni wrth ein
boddau o ble mae ein coffi Nadolig wedi dod eleni, ac yn bwysicach fyth, rydyn ni'n caru sut mae'n blasu!
Gyda llefrith: Tarten ‘Cherry Bakewell’, siocled gwyn
P’un a yw’n cael
ei weini ger y goeden neu gyda mins pei ar ôl cinio Nadolig, rydym yn gobeithio
y bydd ein blend Nadolig yn helpu i wneud eich Nadolig deimlo ychydig mwy
spesial.