RHOST
Mae’r coffi gwych yma sydd wedi mynd trwy’r Proses ‘Mêl’ yn adlewyrchu’r
hyn rydan ni yn Poblado Coffi yn anelu amdano – partneriaethau seiliedig ar
berthnasau. Mae’n perthynas gyda COMSA (Café Organico Marcela) yn mynd a ni yn
ol 7 mlynedd, pan ddaeth Suita Manuela, stiwdant Prifysgol Bangor, i gnocio ar
ddrws Steff i gyflwyno hi’i hun. Rhanodd Suita ei chefndir o dyfu i fyny mewn cymdeithas
ffermio coffi yn Honduras ac ei brwdfrydedd i helpu cysylltu ffermwyr gyda rhostai
ar draws y byd. Aeth Suita ymlaen i weithio mewn nifer o swyddogaethau, yn
cynnwys interniaeth yn IKAWA, cyn ddychwelyd i Honduras i gychwyn COMSA, cydweithfa
sydd yn cynrychioli ac yn helpu gwerthu’r coffi gorau wedi’i tyfu yn ardal La
Paz yn Honduras.
Mae’n cynheaf cyntaf gan Suita a COMSA yn lot arbennig proses ‘Mêl’ –
proses cyffredin yng Nghanolbarth America. Yn ystod y broses hon, mae croen y
ceirios coffi yn cael ei dynnu ar ôl cynheafu, ond mae lysnafedd y ffrwyth yn
cael ei adael ar y ffeuen yn ystod y broses sychu. Mae’r rhan yma o’r broses yn
cymryd hyd at 20 diwrnod tra mae’r ffeuen yn eplesu tu mewn i’r ffrwyth, sydd
yna’n creu blas anhygoel fel y gwelwn yn y coffi yma.
Mae’r coffi yma yn dod o fferm teulu Molina, wedi’i sefydlu ym 1940 gan
Constantino Molina Vasquez, a mae rwan yn cael ei redeg gan or-wyr Constantino,
Noe Molina. Mae Noe rwan yn rhan o’r pedwerydd genedlaeth o fewn y teulu, a fo
ydi’r cyntaf i allforio eu coffi, sydd yn mynd a’r busnes i safon uwch o
gydnabyddiaeth ac ansawdd.
Mae’r coffi o’r Fferm San Jose yn ganlyniad o broses ofalus sy’n dechrau
yn y tir lle mae’r planhigion yn tyfu. Mae Noe Molina wedi bod yn ymroddedig i
greu amgylchedd cynaliadwy a pharchus tuag at natur o’r cychwyn. Mae’r yna chwe arywiogaeth gwahanol yn cael eu tyfu ar fferm sydd wedi’i
hamgylchynu â choed a phlanhigion ffrwythau, gan gyfrannu at ecosystem
amrywiol a chyfoethog. Mae’r coffi yn cael ei dyfu yn organig, gyda phrosesau
rheoli sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd y pridd a bioamrywiaeth.
Mae Noe Molina yn anfon y neges hon at bawb sy'n mwynhau coffi'r teulu yma.
"Pan fyddwch chi'n mwynhau cwpan o goffi o Fferm San José Obrero, rydych chi'n mwynhau mwy na dim ond coffi; rydych chi'n cymryd rhan mewn traddodiad teuluol sy'n ymestyn dros genedlaethau, mewn proses dyfu sy'n parchu'r tir, ac mewn cymuned wedi'i chydlyni yn ôl coffi."