Cwpan cytbwys, glân a chymhleth. Aeron, llus, ‘nougat’ a siocled tywyll
Mwy o wybodaeth
Nid oes gennym ni ffefrynnau yma yn y rhosty, ond pe bai gennym ni, Agri Evolve yn sicr fyddai hynny. Ers ymweliad Steff yn 2021, rydym wedi bod wrth ein bodd yn prynu eu coffi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rydym bob amser wedi ein syfrdanu gan ansawdd eu holl gnydau. Mae eu coffi wedi’i brosesu’n ‘naturiol’ wedi dod yn un o’n ffefrynnau, ac mae’r cynhaeaf diweddaraf wedi dod â’r holl flasau ffrwytha hyfryd, llawn-sudd a ffynci rydyn ni wedi dod i’w ddisgwyl o’u coffi.
Daw ein cynnig diweddaraf o Kalingwe, cymuned sydd yn uchel wrth odre Mynyddoedd Rwenzori yng ngorllewin pell Uganda. Mae Agri Evolve wedi bod yn gweithio gyda grwpiau o ffermwyr yn y maes hwn ers 8 mlynedd ac wedi datblygu perthnasoedd rhagorol. Mae'r Ffermwyr yn deall y gofynion ar gyfer ceirios coch aeddfed, wedi'u cynaeafu'n ffres, a thelir y prisiau uchaf ar y diwrnod danfon. Mae’n berthynas o ymddiriedaeth, cefnogaeth ac ymrwymiad.
Ar draws ardal Kalingwe mae’r 150 o ffermwyr sydd yn cyflenwi Agri Evolve wedi’u rhannu mewn i 5 grŵp gwahanol. Yn ogystal â helpu’r ffermwyr i ddatblygu eu cynhyrchiant coffi, mae Agri Evolve yn darparu stofiau ynni effeithlon i aelodau’r grwpiau, ac yn darparu eginblanhigion coed i ffermwyr eu plannu. Oherwydd gwaith caled Agri Evolve, mae ffermwyr lleol wedi cynyddu eu hyder yn nibynadwyedd y strwythurau sydd gan Agri Evolve ar waith, ac felly gallant gynllunio i gynyddu cynhyrchiant, a thrwy hynny wella eu bywoliaeth trwy ffermio mwy llwyddiannus a phroffidiol.