Blend y Barics

Blend y Barics

Regular price£8.50
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

Roedd Barics y Chwarelwyr yn Nantlle, a adeiladwyd yn yr 1860au, yn gartref i lu o chwarelwyr a weithiai yn Chwarel Dorothea. Ers 2016, mae’r Barics wedi bod yn gartref a hwb i ni, ym mhle mae’n holl goffi yn cael ei rhostio, blasu a’i bacio â llaw.

Rydym wastad yn arbrofi gyda mathau gwahanol o goffi yma yn y Barics, ac mae ‘Blend Y Barics´ yn gyfle i ni rannu efo chi pan ‘dani’n taro ar rywbeth rydyn ni wir yn ei hoffi.

Blend Y Barics yw ein blend tymhorol, ac mae'n ddewis arall i'n Espresso Blend. Er ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer espresso, mae Blend Y Barics yn creu Aeropress, Stovetop, neu Gaffetiere hyfryd.

Bydd Blend Y Barics yn newid gyda'r tymhorau a'r cynhaeaf, felly ymunwch a ni ar y daith a mwynhewch yr hyn rydyn ni'n ei yfed yn y rhosty.

-----------------------------------------------

 

Os nad yw wedi torri yna peidiwch â'i drwsio! Mae Blend Y Barics ym mis Ionawr yn gyfuniad arbennig ac unigryw i chi danysgrifwyr lwcus a ffyddlon, ac efallai ei fod yn swnio’n gyfarwydd. Am un tro arall yn unig, rydyn ni wedi cymysgu ein Burundi  ‘boozy’ (y ffeuen a wnaeth ein blend ‘Dolig mor wel... Nadoligaidd), gyda’n ffefryn yma, Colombia Suukala.

Aduniad llawer mwy cytûn na’r brodyr Gallager, mae’r coffi blasus hwn yn sbin ar ein blend Nadolig, gyda thro ysgafn. Rydym wedi rhostio'r ffa ychydig yn wahanol i ddod â blasau mwy cliro siocled tywyll cyfoethog, grawnffrwyth, ceirios, a mafon.

Fel yr arfer, rydyn ni'n falch o'r perthnasoedd rydyn ni wedi'u creu trwy gyrchu'r coffi yma. Hon fydd ein hail flwyddyn yn cynnig Suukala yma yn y rhosty ac rydym wedi dod i ymddiried y bydd beth bynnag y maent yn ei gynhyrchu o'r ansawdd uchaf. Yn yr un modd, rydyn ni wrth ein boddhau yn gweithio gydag Omwani Coffee ac yn ehangu ein perthynas â nhw. Daw ein coffi Burundi o'r Migoti, ac mae'n arddangos y gorau o'r hyn y gall perthnasoedd masnach ystyrlon ei olygu i gymuned.

 

Mae hwn yn flend na fyddwn yn ei wneud eto, felly sipiwch ef a mwynhewch y coffi blasus hwn unwaith eto gyda ni.

Heb llefrith: Gwirod ceirios llawn sudd, aeron coch, marsipán, siocled tywyll cyfoethog, sbeisys Nadolig

Gyda llefrith: Tarten ‘Cherry Bakewell’, siocled gwyn


Efallai yr hoffech chi