El Durazno - Proses Aeddfedu Mewn Casgen

Regular price£15.00
/
Shipping calculated at checkout.

ffa cyfan fel safon, rhowch nodyn ar yr archeb os ydych chi ei eisiau wedi'i falu.

SWM CYFYNGEDIG AR GAEL

Rhost


Fferm: El Durazno
Lleoliad: Huehuetenango
Uchder: 1750m
Proses: Wedi’i olchi, yna aeddfedwyd mewn casgen wisgi
Varietal: Caturra, Bourbon, Catui

Mwy o wybodaeth

Ni allem fod yn fwy cyffrous i rannu gyda chi o'r diwedd ein coffi arbrofol rhifyn cyfyngedig cyntaf wedi'i aeddfedu mewn casgen wisgi, sydd, yn ein barn ni, yn gwneud y coffi Nadolig perffaith.

Unwaith eto, trwy waith gwych Distyllfa Penderyn a'u tîm gwych, rydym wedi llwyddo i gael gafael ar gasgen fach (a elwir yn bludgeon) gyda hanes gwych. Dechreuodd y gasgen fel casgen Port, yn storio gwin ‘Ruby Port’, cyn i Penderyn ddefnyddio'r gasgen i aeddfedu eu …. .

Daeth y gasgen atom gydag arogl melys a ffrwythus i gyd-fynd â'i hanes, ac felly fe wnaethom ddewis aeddfedu ein ffa Guatemalan - El Durazno ynddynt. Dyma’r ffa oedd a wnaeth ein Blend Y Barics haf mor ffrwythus gyda'i nodau blasu eirin gwlanog a hufen.

Ar ôl eu heneiddio'n ofalus yn y gasgen am 6 wythnos, penderfynom eu bod wedi ymsugno y lefel perffaith o flas y gasgen wrth gadw ei gymeriad ffrwythus gwreiddiol. Disgeyliwch profiad blasu moethus o ‘Turkish Delight’, almonau wedi'u tostio, mêl, brandi, ffrwythau sych, ac wrth gwrs, wisgi melys Penderyn.

Mae'r coffi hwn yn brofiad rhifyn cyfyngedig go iawn, ac oherwydd maint y gasgen dim ond chwe deg o fagiau 250g sydd gennym ni ar gael i'w gwerthu. Mae'r coffi hwn yn gwneud y coffi prynhawn Nadolig perffaith ac mae'n well ei rannu gyda theulu a ffrindiau fel y gallwch chi gyd gael profiad na fyddwch chi'n ei anghofio. Cymerwch fag cyn iddo redeg allan!

You may also like