
Nodiadau Blasu
Gymau gwin, leim, nwgât, fanila, ffrwythau sych – yn felys ac yn aros yn y geg gyda chorff ‘bŵsi’.
Mwy o wybodaeth
Nid oes
gennym ni ffefrynnau yma yn y rhosty, ond pe bai gennym ni, Agri Evolve yn sicr
fyddai hynny. Ers ymweliad Steff yn 2021, rydym wedi bod wrth ein boddau yn
prynu eu coffi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rydym bob amser wedi ein syfrdanu gan
ansawdd eu holl gnydau. Mae eu coffi wedi’i brosesu’n ‘naturiol’ wedi dod yn un
o’n ffefrynnau, ac mae’r cynhaeaf diweddaraf wedi dod â’r holl flasau ffrwytha
hyfryd, llawn-sudd a ffynci rydyn ni wedi dod i’w ddisgwyl o’u coffi.
Daw ein
cynnig diweddaraf o Mahango, cymuned 1800m i fyny i droedfryniau'r Rwenzoris,
gyda llawer o ffermwyr yn byw ac yn tyfu coffi ymhell uwchben yr uchder hwn.
Mahango oedd un o'r cymunedau cyntaf lle sefydlodd Agri Evolve ganolfan brynu 8
mlynedd yn ôl. Fel arfer mae gan ffermwyr rhwng 1 a 2 erw o dir a choffi yw eu
prif gnwd arian parod.
Mae staff o
Agri Evolve yn ymweld yn rheolaidd â'r ffermwyr ac yn darparu hyfforddiant a
chefnogaeth iddynt. Mae ceirios coffi coch, aeddfed yn cael eu casglu bob dydd
yn ystod y tymor cynaeafu a'u cludo i'r ganolfan brynu. Mae'r ceirios yn cael
eu pwyso, eu hasesu am ansawdd a'r ffermwyr yn cael eu talu mewn arian parod
gyda'r holl fanylion yn cael eu cofnodi ar ap digidol. O'r fan hon mae
tryciau'n cludo'r ceirios i'r Orsaf Brosesu yn Nyabirongo. Pan fydd wedi
sychu'n llawn, mae'r coffi yn cael ei blicio, ei raddio, ei ddidoli a'i lanhau
a'i baratoi i'w allforio i'r DU.