Sumatra - Poda

Regular price£8.00
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

RHOST


INDONESIA - PODA 

· Fferm: Poda

· Lleoliad: Sitinjo, Sumbul, a Sidikalang

· Uchder: 1200-1400m

· Proses: Giling Basah

· Amrywogaeth: Sigararutang, Ateng Super

Nodau cwpanu: Siocled tywyll, eirin, tamarind a sbeisys

Mae Poda yn dilyn dull gwahanol i goffi Sumatra, ac mae’n cynnig model gwahanol iawn ar gyfer perthnasau llif gyflenwi yn y diwylliant coffi. Mae Poda yn ffynhonellu o raglywiaeth Dairi yn unig, i’r gogledd-orllewin o Lyn Toba o’r tair ardal o Sitinjo, Sumbul, a Sidikalang. Mae’r tair ardal yma yn ffurfio mamwlad ucheldir i’r bobl Pakpak, is-grŵp o’r bobl Batak, ble mae ffermwyr yn tyfu coffi ar eu ffermydd, ynghyd a chnydau gwerthu arall. Mae’r ffermydd yn fychan, gyda’r rhan fwyaf yn mesuro i fod yn llai nag un hectar, a nifer mor fychan â chwarter hectar.

Mae Poda yn gweithio â ffermwyr i drefnu a chefnogi grwpiau, sydd yna’n darparu llwyfan ar gyfer agronomeg a hyfforddiant arall er mwyn gwella safon coffi, yn cynnwys y grwpiau o ffermwyr benywaidd sydd yn cyfrannu’n fawr iawn at y coffi. Rhan bwysig o’r cymorth gan Poda yw gwella rheolaeth ariannol fel bod y grwpiau wedi’u hadeiladu o gwmpas grŵp benthyciadau a chynilion cymunedol. Mae hyn yn eu cynnig rhagor o ymreolaeth ariannol a'r gallu i dorri’n rhydd o’r gadwyn o fod mewn dyled i ryngfasnachwyr (sydd fel arfer yn cael eu ail-talu mewn coffi, sydd yn gostwng incwm potensial y ffermwyr). Mae Poda yn prynu’r coffi gan y ffermwyr yn uniongyrchol i wella safon coffi a hefyd i sicrhau fod mwy o werth y coffi yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’r ffermwyr – mae’r ffermwyr yn derbyn pris uwch am eu coffi na sy’n cael ei chynnig gan gyfraddau masnachol, ac mae cyfran o’r maint uwch yma yn mynd i’r gronfa benthyg a chynilo, sydd yna’n cynnig ariannu cost-isel i’r aelodau.

Dim ond y ceirios y fwyaf blasus ac aeddfed sydd yn cael eu pigo yn ystod y cynhaeaf. Mae gweithwyr medrus yn cael gwared ar unrhyw ddiffygion cyn i’r ceirios cael eu di-plisgo. Yna, mae’r ffa yn eplesu am 24 awr mewn tanciau i ddatblygu blasau cymhleth. Ar ôl eplesiad, cant eu hymolchi eto i dynnu mwcilag. Mae’r ffa yn cael eu sychu’n rhannol dros 2-4 diwrnod tan maent yn cyrraedd lefel lleithder o 26%. Yna, mae’r croen a’r memrwn yn cael ei dynnu’n fecanyddol mewn proses o’r enw ‘wet-hulling’. Mae’r broses sychu yma yn annog nodau blasau daearol a gwyllt sydd yn reddfol i goffi.

Mae’r ffa wedi ei di-plisgo yna’n cael i’w sychu am ddeuddydd bellach er mwyn sefydlogi lleithder.

Efallai yr hoffech chi