Cynydd Pris.

Fe fydd prisiau ein coffi’n codi o’r 1af o Chwefror ymlaen

Rydym ni, gymaint ag erioed, yn angerddol tu hwnt am gynnig amrywiaeth o goffi o’r safon uchaf i chi, ein cwsmeriaid am bris teg nid ar draul chware teg y ffermwyr.

Ond mae pwysau cyfunol digwyddiadau’r ddwy flynedd diwethaf, yn ogystal ar angen cywir i ni fod yn fwy cynaliadwy’n symud ymlaen yn golygu cynnydd bach ym mhris y bagiau ar y silff.

Er hyn, ‘da ni’n siŵr eich bod chi’n cytuno fod ein bagiau 100% compostadwy’n gam positif iawn.

Ond peidiwch â phoeni’n ormodol, oherwydd fydd pris anfon archebion dros 1kg ar y wefan dal yn rhad ag am ddim.

Mae hefyd modd i chi ddod i ail lenwi tybiau yma yn y rhosty am bris llai…

Ac mae ein gwasanaeth tanysgrifiadau amrywiol hefyd yn ffordd o wneud safiadau bach drwy ymrwymo i ddau neu bedwar bag am gyfnod o dri, chwech neu ddeuddeg mis. Bydd gwasanaeth newydd yn lansio am danysgrifiad misol o’ch hoff flend hefyd.

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaol.