Tseina - NHS

China - NHS
Er mwyn annog y rhai ohonoch gydag amheuon ynghylch rhoi cynnig ar goffi o Tseina, am y 6 wythnos nesaf rydym wedi penderfynu rhoi’r holl elw o bob archeb o Lafu Lot 3 i elusen y GIG a sefydlwyd i gynorthwyo ein gweithwyr iechyd rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y firws Corona…

Cefais fy mrawychu, fel llawer ohonoch rwy’n siŵr, gan sylwadau gwarthus arweinydd ein ffrindiau yn yr Unol Daleithiau, gan gyfeirio at Covid-19 fel ‘The Chinese Virus’. Er bod y pandemig penodol hwn wedi tarddu yn Tsieina, mae'n amlwg tawbroblem fyd-eang yw hon- sy'n gofyn am ymateb byd-eang unedig.

Ddwy flynedd yn ôl, roeddwn yn ffodus i ymweld â thalaith Yunnan, yn Ne-orllewin China, lle cyfarfûm â nifer o ffermwyr fel y rhai yn y llun, sydd wedi bod yn gweithio gyda ‘Yunnan Coffee Traders’ i gynhyrchu llwythi o goffi arbenigedd o’r safon uchaf. Rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo ansawdd uchel y coffi yma ers sbel nawr ac mae'r cysondeb a pha mor gytbwys a glân ydyw yn y cwpan wedi creu argraff arnom. Mae wedi bod yn ddiddorol gweld ymateb pobl pan fyddwn yn cyflwyno ein coffi o Tseina, gyda lawer ohonynt heb unryw ddiddordeb rhoi cynnig ar goffi o wlad sy'n enwog am lawer o bethau - ond nid coffi!

Yma ym Mhoblado Coffi mi ydym ni yn yn gweithio gyda chynhyrchwyr ledled y byd, ac mae ansawdd y coffi yr un mor bwysig â'r gadwyn cyrchu moesegol. Mae ein partneriaid yn Yunnan yn rhannu'r delfrydau hyn ac unwaith eto maent wedi anfon ‘lot’ gwych i chi ei fwynhau! Beth am roi cynnig arni a helpu ein Gweithwyr Iechyd gwych ar yr un pryd!


china-coffee-nhs-poblado-coffi-